Mae'r podlediadau hyn yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i gyflogwyr i helpu i gadw gweithlu Cymru yn iach ac yn y gwaith. Maent yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol ac ymarferol, a gobeithiwn y byddwch yn eu mwynhau.
Y podlediadau newydd yw:
- Lles Ariannol yn y Gweithle. Dysgwch sut y gallwch gefnogi lles ariannol eich gweithlu orau. I wrando ar y podlediad hwn, cliciwch yma.
- Iechyd y Blaned: Cyflogwyr yn Gweithredu ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol. Archwilio pam mae'n bwysicach nag erioed bod cyflogwyr yn gweithredu ar gynaliadwyedd. I wrando ar y podlediad hwn, cliciwch yma.
Gallwch hefyd gael mynediad at y podlediadau hyn (yn ogystal â'n rhai blaenorol ar iechyd meddwl a llesiant, defnyddio’r Nodyn Ffitrwydd yn rhagweithiol i gadw gweithwyr yn y gwaith, ac atal trosglwyddo Covid-19) drwy ymweld â gwefan Cymru Iach ar Waith yma.
Yn olaf, byddem yn ddiolchgar pe byddech chi'n rhannu'r podlediadau hyn gyda'ch rhwydweithiau a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol: #GweithleIach #GweithluIach #BusnesIach. Isod mae rhai enghreifftiau o'n platfformau cyfryngau cymdeithasol ein hunain yn ogystal â chopïau gwefan/cylchlythyr. Mae croeso i chi eu defnyddio/rhannu.
Diolch,
Tîm Cymru Iach ar Waith