Dyna pam mae ein Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd wedi creu pecyn cymorth ymarferol ar gyfer Asesiad o'r Effaith ar Iechyd a fydd yn galluogi cynllunwyr i integreiddio iechyd yn hawdd yn eu cynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.
Mae pwysigrwydd iechyd a chynllunio a'r natur ryngysylltiedig rhyngddynt wedi’i bwysleisio'n ddiweddar gan bandemig y Coronafeirws, yr effaith y mae camau i reoli trosglwyddiad, fel cyfyngiadau symud, wedi’i chael mewn perthynas â chyfleoedd tai a chyflogaeth a mynediad at leoedd a mannau. Nawr yw'r cyfle perffaith i gynllunio'n well ar gyfer ein dyfodol.
Maent wedi cynllunio'r pecyn cymorth i fod mor hawdd a syml â phosibl ac i sicrhau'r canlyniadau iechyd a llesiant cadarnhaol mwyaf posibl drwy bolisïau cynllunio defnydd tir sy'n creu cymunedau iach, teg a chydlynus - fel y gallwn i gyd edrych ymlaen at ddyfodol iachach.
https://phw.nhs.wales/news/new-toolkit-enables-health-to-be-built-into-future-land-planning1/