Fel rhan o’i Rhaglen Lywodraethu a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, mae Gweinidogion Cymru’n archwilio opsiynau ar gyfer creu safle angori newydd ar gyfer yr Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfle hwn ar gael yma a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 12 canol dydd ar 8 Mai 2023. Bydd CGGC yn cynnal digwyddiad gyda Llywodraeth Cymru i fynd drwy'r wybodaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau ar 14 Mawrth. Dilynwch y ddolen hon i gadw lle.