Mynediad i Wasanaethau Iechyd yng Nghymru - Materion Trafnidiaeth a Rhwystrau

Yr ymchwil ddiweddaraf gan y Comisiynydd Pobl Hŷn i brofiadau pobl hŷn o gael mynediad at wasanaethau iechyd yng Nghymru a'r anawsterau y maent yn eu hwynebu yn aml oherwydd materion yn ymwneud â thrafnidiaeth.

Mae’r canfyddiadau – ar sail tystiolaeth a gasglwyd gan gannoedd o bobl hŷn ledled Cymru a rhanddeiliaid allweddol – yn tynnu sylw at y rhwystrau a’r anawsterau sylweddol y gallai pobl hŷn eu hwynebu’n aml wrth deithio i wasanaethau iechyd o ganlyniad i’r opsiynau trafnidiaeth cyfyngedig sydd ar gael, a materion sy’n ymwneud ag ansawdd, hygyrchedd a dibynadwyedd.

Gan nad oedd yn bosibl cyhoeddi’r adroddiad fel y bwriadwyd ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig, gweithiais gyda nifer o randdeiliaid allweddol i sicrhau y byddai camau gweithredu a newidiadau yn cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd gennyf. Mae’r briff sydd ynghlwm yn cynnwys manylion y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma.

Wrth i ni symud ymlaen, byddaf yn parhau i ymgysylltu â darparwyr trafnidiaeth a chyrff cyhoeddus i sicrhau y gallwn adeiladu ar y cynnydd hwn, a bod camau pellach yn cael eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt. 

Ar ben hynny, mae’r materion sydd wedi’u nodi yn fy adroddiad – yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â chynllunio ac ymgysylltu â phobl hŷn – yn cyd-fynd yn ehangach o ystyried y trafodaethau a’r dadleuon pwysig sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynghylch sut y bydd amrywiaeth eang o wasanaethau’n cael eu darparu yn y dyfodol.

Mae’n hanfodol bod y materion y gall pobl hŷn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth yn cael eu deall yn iawn, a bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed wrth i newidiadau gael eu hystyried i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity