Mae ein grwpiau yn ddibynnol ar gefnogaeth gwirfoddolwyr i ddod a chymunedau at eu gilydd er mwyn cymeryd rhan mewn gweithgareddau fel ymarfer corff ysgafn, Tai Chi, garddio, cerdded neu gem o boules. Mae’n rhad ac am ddim i fynychu ein grwpiau a bydd lluniaeth ysgafn ar gael i’w fwynhau yn ein grwpiau bob bythefnos neu yn fisol.
Mae ein grwpiau yn ehangu ar draws Cymru ac yr ydym yn edrych am gydlynwyr grwpiau er mwyn lansio grwpiau yn eich ardal neu i gydlynnu un o’r grwpiau sydd wedi eu sefydlu yn barod.
Fel cydlynydd grwp, byddwch yn cydgordio gweithgareddau mewn canolfanau cymunedol, tai tafarnau, ystafelloedd Eglwysi a.y.y.b.. Bydd rhwng 4 a 15 o bobol hyn, gyda gyrrwr gwirfoddol yn ei cludo nhw i’r gweithgareddau. Fel cydlynydd grwp, gallwch ddechrau grwp newydd yn eich cymuned neu ein cynorthwyo i redeg grwp sydd wedi ei sefydlu yn barod.
Mae gweithgareddau yn ein grwpiau yn amrywio o ffitrwydd cadair, dawnsio, ioga a boules i ardddio, Tai Chi neu unrhyw weithgaredd newydd sy’n gymorth i alluogi pobol i gadw’n heini.
I’n galluogi ni i gyrraedd mwy o bobol hyn ar draws Cymru, yr ydym angen mwy o wirfoddolwyr i gydlynu ein grwpiau.
Mae grwpiau yn cyfarfod am tua 2 awr bob mis ac yn adddas i bobol hun.
Ydych chi’n meddwl y gallwch chi fod yn un o’n gwirfoddolwyr nesaf.
I weld rhestr llawn o’n cyfleon i wirfoddolwyr neu i gael sgwrs am y cyfleon, gawch ni ar 02922 801 802.
Bydd bob rol angen i chi gwbwlhau DBS a bydd Re-engage yn talu’r gost.