Mae Diwrnod Cofio'r Holocost (HMD) yn digwydd ar 27 Ionawr bob blwyddyn.
Mae'r diwrnod yn annog cofio am fyd sydd wedi'i greithio gan hil-laddiad a chasineb. Thema eleni yw 'Bregusrwydd Rhyddid'. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy wefan yr Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost YMA.
Mae'r thema'n arbennig o ingol i ni eleni – mae dioddefwyr troseddau casineb yn aml yn rhannu gyda ni sut mae eu profiadau casineb wedi cwtogi ar eu teimladau o ryddid – o arwahanrwydd cymdeithasol a gallu byw eu bywydau gyda’r rhyddid i fod yn nhw eu hunain.
Mae’r cysyniad o ‘ddieithrio' yn gyffredin ym mhatrymau hil-laddiad a throseddau casineb ar draws y byd ac ar draws amser – ymddygiad sy’n dal yn amlwg heddiw. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein hannog ni i gofio'r rhai a gollwyd i hil-laddiad a chasineb, ond hefyd yn ein helpu i baratoi at y dyfodol.
Fel ffordd o goffau’r diwrnod a chodi ymwybyddiaeth o’r gwersi a’r themâu pwysig, rydym yn rhannu’r e-Ymgyrch hon sy’n cynnwys ystod o adnoddau i chi eu defnyddio, eu rhannu a bod yn ymwybodol ohonynt wrth gefnogi cleientiaid, defnyddwyr gwasanaeth, cymdogion, ffrindiau a theulu wrth brofi casineb.
- Mae ein gwybodaeth gwasanaeth ar gael mewn ystod o ieithoedd, gan gynnwys Arabeg a Hebraeg. Gall pobl sydd wedi profi troseddau/digwyddiadau casineb siarad â'n tîm yn eu mamiaith (mae gennym fynediad at dros 200 o ieithoedd) Cysylltwch â hate.crimewales(at)victimsupport.org.uk 0300 30 31 982
I gydnabod Diwrnod Cofio'r Holocost, sy'n digwydd ar 27 Ionawr, rydyn ni'n cynnal ein gweithdy 'Mae'n Dechrau Gyda Ni' AM DDIM unwaith eto! AM DDIM i bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae cadw'ch lle yn hanfodol; https://www.eventbrite.co.uk/e/806721905937
- Dyma rai postiadau cyfryngau cymdeithasol a chynnwys ysgrifenedig y byddwn yn eu rhannu yn ystod Diwrnod Cofio'r Holocost, i chi eu defnyddio am ddim
- Mae adnoddau ychwanegol ar gael drwy wefan Diwrnod Cofio'r Holocost Holocaust Memorial Day Trust (hmd.org.uk)
Cofiwch: Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru ar agor 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn – nid oes rhaid bod pobl sydd wedi profi casineb wedi mynd at yr heddlu.