Mae’r cynllun yn adeiladu ar waith cynyddol llyfrgelloedd gydag iechyd a llesiant cymunedol, ac yn gweithredu trwy fodel cyfeirio a hunan-gyfeirio. Mae’n cefnogi model hunan-reoli I annog cleifion i gymryd rôl egnïol yn y penderfyniadau a wneir am eu hiechyd a’u lles. Mae’n darparu gwybodaeth gyffredinol am iechyd meddwl a llesiant, teitlau wedi’u bwriadu’n I ymdrin â chyflwr penodol, cefnogaeth ar gyfer profiadau anodd cyffredin, gan gynnwys profedigaeth a cholled, a straeon personol.
Mae’r rhestr yn cynnwys amrywiaeth o wahanol fformatau a lefelau darllen I sicrhau ei fod yn hygyrch i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd gyda themâu fel:
Therapïau a dulliau
Teimladau a phrofiadau cyffredin
Llyfrau hunan-gymorth i gefnogi iechyd meddwl
Cyflyrau cyffredin eraill
Straeon personol
Mae’r cynllun yn hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant, yn cefnogi modelau byw’n dda a hunan-gymorth a hunan-reolaeth. Fel ymyrraeth gymunedol, mae’n caniatáu i wasanaethau cyhoeddus gydweithio i gefnogi iechyd a llesiant eu cymunedau yn ogystal â chyfeirio at ffynonellau cymorth a chefnogaeth broffesiynol. Mae’n argymell gweithgareddau llesiant eraill y llyfrgelloedd, er enghraifft grwpiau darllen a chyfleoedd gwirfoddoli.
Mae’r llyfrau ar gael I’w benthyg o’ch llyfrgell leol. Mae rhai teitlau hefyd ar gael I’w benthyg fel e-lyfrau a llyfrau llafar.