Bydd cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2024, gyda chynllun newydd yn cymryd ei le ddydd Llun 1 Ebrill 2024. Bydd y cynllun newydd yn canolbwyntio mwy ar dechnolegau carbon isel ar gyfer y cartref lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny, i gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn sero net erbyn 2050. O dan y cynllun newydd, bydd yr ateb ynni effeithlon gorau yn cael ei ddarparu drwy inswleiddio, gwresogi carbon isel a thechnolegau adnewyddadwy.
Bydd Nyth yn parhau i roi cyngor i gwsmeriaid ar arbed ynni ac arian a bydd yn parhau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 6pm tan ddiwedd mis Mawrth 2024. Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu mynegi eu diddordeb yn y cynllun newydd drwy wasanaeth cynghori Nyth a trafod cynlluniau grantiau effeithlonrwydd ynni a charbon isel eraill sydd ar gael.
Er mwyn sicrhau bod cymaint o geisiadau â phosibl yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd mis Mawrth 2024, nid ydynt yn derbyn ceisiadau newydd ac eithrio cwsmeriaid agored i niwed cymwys heb wres na dŵr poeth yn yr eiddo.
Cysylltir â chwsmeriaid sy’n mynegi diddordeb yn y cynllun newydd cyn gynted â phosibl ar ôl lansio’r cynllun newydd.
Mae aelwydydd agored i niwed yn aelwydydd lle mae’r preswylwyr yn cynnwys un neu fwy o’r canlynol:
• person 60 oed a throsodd,
• plentyn dibynnol neu blant o dan 16 oed,
• person sengl o dan 25 oed,
• person sy'n byw gyda salwch tymor hir neu sy'n anabl
Os oes gennych chi unrhyw ddeunyddiau marchnata Nyth ar hyn o bryd, gallwch naill ai ddychwelyd y rhain i’w swyddfa Caerdydd i’w hailgylchu, neu maen nhw yn argymell eich bod yn ailgylchu’r deunyddiau hyn o 8 Ionawr 2024 ymlaen.
Y cyfeiriad i ddychwelyd deunyddiau: Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni, 33 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9HB.