Mae argaeledd tai diogel ac o ansawdd yn un o'r penderfynyddion iechyd allweddol, ond nid yw statws tai unigolyn yn cael ei gasglu'n rheolaidd gan wasanaethau gofal iechyd.
Gan ddefnyddio dull newydd o ddod â gwybodaeth am statws tai ynghyd ar draws gwasanaethau, mae'r adroddiad hwn yn amcangyfrif bod dros 15,000 o unigolion â phrofiad byw o ddigartrefedd yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys bron 2,000 o unigolion y cofnodwyd eu bod yn ddigartref yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Drwy gysylltu data, llwyddodd y tîm i greu darlun mwy cynhwysfawr o iechyd ymhlith y boblogaeth hon, er bod statws tai yn cael ei gofnodi'n anghyson ar draws gwasanaethau.
Meddai Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru: ‘Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn sy'n dangos y materion iechyd ychwanegol sylweddol sy'n gysylltiedig â digartrefedd a thai annigonol. Mae’r data'n atgyfnerthu ein profiad o roi cyngor ar dai i bobl ledled Cymru - mae tai o ansawdd uchel, fforddiadwy yn hanfodol i iechyd a llesiant da.’