MAE ANGEN RHAGOR O LETYWYR YN BOWYS.

MAE teuluoedd o Wcráin angen man diogel a rhywle i alw’n gartref yn Bowys.

Wrth gynnig llety, cewch £500 y mis, yn ogystal â chefnogaeth a hyfforddiant am ddim.

Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi agor eu calonnau a’u cartrefi i’r rhai mewn angen.

Ond mae’r argyfwng yn parhau.

Yng Ngogledd Cymru, mae Hollie a Mark sydd newydd briodi, wedi agor eu cartref i Lidiia a'i dwy gath.

Mae’r ddwy gath sydd eisoes gan y cwpwl wedi bod wrth eu bodd yn croesawu’r ddwy gath arall.

"Mae yna ragdybiaeth bod hyn yn gallu bod yn faich, ond mae hynny’n bell iawn o’r  gwirionedd," meddai Hollie.

"Mae'r ddau ohonom eisiau i Lidiia aros cyhyd ag y mae hi angen bod yma, a phan fydd yr amser yn iawn rydym wedi gwneud cynlluniau i fynd i ymweld â hi yn ôl yn Wcráin."

Mae Lidiia a Hollie wedi dod yn ffrindiau agos. Rhai o’r pethau sy’n rhoi’r mwynhad mwyaf iddynt yw siopa, mynd i’r sinema a bwyta allan gyda'i gilydd, ac roedd Lidiia hefyd yn westai arbennig ym mrecwast priodas y cwpwl.

"Mae fel byw gyda ffrind hyfryd a chwrtais iawn," meddai Hollie wrth iddi sôn am y ffordd y mae Lidiia yn gwneud yn siŵr ei bod yn iawn os yw hi'n gweithio'n rhy galed neu'n teimlo’n sâl.

"Rydyn ni'n mwynhau ei chael hi yma yn fawr.

"Oherwydd y taliad gan y llywodraeth, dydy hyn ddim yn bwysau ariannol arnon ni, fe wnaethon ni drafod sut y byddai pethau’n gweithio ar y dechrau, gan gynnwys biliau, ac mae wedi bod yn hawdd iawn."

Prif bryder Hollie yw pa mor anodd fydd ffarwelio â Lidiia a'i chathod.

Bydd y rhan fwyaf o Wcreiniaid sydd yng Nghymru wedi treulio cryn amser yma erbyn hyn, yn dilyn yr ymosodiad mawr gan Rwsia ym mis Chwefror 2022, a bydd llawer mewn addysg a chyflogaeth. Bydd y rhan fwyaf wedi dechrau setlo yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n cymunedau lleol.

Mae awdurdodau lleol yn cynnig cymorth a chefnogaeth trwy gydol y cyfnod lletya a bydd modd iddynt gynnig rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal. Byddant bob amser ar gael i ddatrys unrhyw broblemau neu os bydd y trefniant lletya yn methu, senario sy’n annhebygol ond sydd wedi ei ystyried.

Ni ellir codi rhent ar y rhai sy’n cael llety ond gellir disgwyl iddynt wneud cyfraniad rhesymol at filiau’r aelwyd.

Mae Housing Justice Cymru yn cynnig llinell gymorth ar gyfer lletywyr ac yn cynnal sesiynau ar-lein i'r rhai sy'n ystyried cynnig llety er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth iddyn nhw am yr hyn sy'n ddisgwyliedig, a ph’un ai dyma’r peth iawn iddyn nhw. Nid oes gorfodaeth i wneud cais i gynnig llety yn dilyn y sesiwn.

Mae hyfforddiant pellach i'r rhai sydd wedi cofrestru hefyd ar gael. Gweler Cymorth i Letywyr - Cartrefi i Wcráin – Housing Justice ar wefan Housing Justice Cymru.

I wneud cais i gynnig llety, ewch i llyw.cymru/cynnigcartref.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity