Mae ‘Darllen yn Well’ i blant yn argymell darllen i helpu plant i ddeall eu teimladau a’u pryderon ac ymdopi â chyfnodau anodd. Dewisiwyd y llyfrau gan blant, gofalwyr, arbenigwyr iechyd a llyfrgellwyr a’u cymeradwyo gan sefydliadau iechyd gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd, Mind a Choleg Brenhinol Meddygon Teulu.
Mae’r rhestr lyfrau ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2 (7 – 11 oed) gan gynnwys amrywiaeth o lefelau darllen i helpu darllenwyr llai hyderus ac annog plant i ddarllen gyda’u brodyr a chwiorydd a’u gofalwyr.
Mae’r rhestr yn cynnwys:
- Gwybodaeth gyffredinol a chyngor ar sicrhau iechyd meddwl a lles.
- Deall a rheoli teimladau
- Delio â phryderon
- Llywio’r byd o’ch cwmpas, gan gynnwys yn yr ysgol, ar-lein ac yn y newyddion.
- Delio â chyfnodau anodd, gan gynnwys pan fydd rhywun yn marw, trawma a phan fydd rhiant neu ofalwr ag anghenion iechyd meddwl.
- Cymorth ar gyfer byw gyda chyflyrau penodol megis ADHD, Anhwylderau Sbectrwm Awtistiaeth, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol ac anableddau corfforol.
Sut mae’n gweithio:
Bydd gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n cynnig cymorth i blant a theuluoedd yn gallu defnyddio’r cynllun i argymell darllen llyfrau defnyddiol. Mae modd hefyd hunan-gyfeirio ar y cynllun. Mae'r llyfrau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn eich Llyfrgell Powys agosaf a gellir eu benthyg am gyfnod o 6 wythnos. Gellir archebu’r llyfrau ar-lein a'u casglu o'ch llyfrgell leol.
Mae ymuno â'ch llyfrgell yn hawdd ac yn rhad ac am ddim.