Gall cynghorwyr hyfforddedig ar linell gymorth Advicelink Cymru ‘Hawlia Dy Arian’ 0808 250 5700 wirio hawl i arian ychwanegol gan:
• Budd-daliadau, fel Taliad Annibyniaeth Bersonol, Lwfans Gofalwyr a Chredyd Pensiwn
• Cymorth Llywodraeth Cymru
Gallant hefyd drefnu cymorth gyda materion dyled a chyllid personol.
Mae cynghorwyr yn cynnig cymorth drwy gydol y broses hawlio ac yn helpu i lenwi unrhyw ffurflenni hawlio. Gallant hefyd roi cyngor ar ba dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi hawliad.