Lansio cyfeirlyfr mannau cynnes.

Mae cyfeirlyfr sy'n rhestru llefydd a all gynnig croeso cynnes i bobl Powys y gaeaf hwn wedi cael ei lansio gan y cyngor sir.

Mae Cyfeirlyfr Mannau Cynnes Cyngor Sir Powys yn cynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol, eglwysi a llefydd eraill sy'n agor eu drysau i unrhyw un sydd eu hangen.

Mae'r cyngor wedi cydweithio gyda'i bartneriaid yn ogystal â grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill ar draws y sir i ddarparu'r rhwydwaith hwn o fannau cynnes, sy’n gallu cynnig croeso cynnes i bobl Powys y gaeaf hwn a chyfle i gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau tra’n cadw’n gynnes.

Gellir dod o hyd i’r cyfeirlyfr drwy’r ddolen hon https://cy.powys.gov.uk/costaubyw - hwb gwybodaeth costau byw y cyngor. Bydd y cyfeirlyfr mannau cynnes ar gael yn Gymraeg yn fuan.

Lansiwyd y ganolfan wybodaeth fis Hydref ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth mewn un lle i sicrhau bod pobl yn gwybod pa help sydd eisoes ar gael a sut i gael hyd iddo.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae'r argyfwng costau byw yn y DU yn rhoi pwysau na welwyd mo’i tebyg o’r blaen ar bobl, a byddant yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ynghylch pryd a beth y maen nhw'n ei fwyta, beth allant eu gwneud mewn bywyd, a phryd y byddant yn gallu fforddio gwresogi eu cartrefi.

"Gall y rhwydwaith man cynnes gynnig croeso cynnes i bobl Powys y gaeaf hwn a chyfle i gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau a chadw'n gynnes ar yr un pryd.

"Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau hynny sydd wedi camu ymlaen i ddarparu man cynnes y gaeaf hwn.  Byddant yn gwneud gwahaniaeth bositif i'n cymunedau ac yn helpu pobl Powys yn ystod yr argyfwng hwn."

Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill ym Mhowys sy'n barod i ddarparu man cynnes lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb drwy ymweld â

https://cy.powys.gov.uk/costaubyw a chlicio Creu mannau cynnes i Bowys.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity