Bydd gofalwyr yn gallu benthyg hyd at 20 llyfr ar y tro i’w hunain a’r rhai dan eu gofal. Rydym yn cydnabod ei fod yn aml yn anodd i ofalwyr gyrraedd y llyfrgell felly ni fydd dirwyon ar y llyfrau hyn os fyddan nhw’n hwyr. Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Powys yn cydnabod gwerth aruthrol y gofalwyr yn ein cymunedau ni ac mae’n braf gallu cynnig rhywbeth yn ôl trwy ddiddymu rhwystrau at y llwyth o adnoddau sydd yn ein llyfrgelloedd ni.
Gyda’r cerdyn llyfrgell byddwch yn gallu benthyg deunydd llyfrgell mewn sawl fformat i helpu gydag anghenion llythrennedd, lles meddyliol, gwybodaeth ac anghenion dysgu’r person dan eich gofal a’r gofalwyr eu hunain. Ni fydd unrhyw ddirwyon ar lyfrau a fenthycwyd ar gerdyn gofalwr, sy’n golygu na fydd neb dan anfantais oherwydd tlodi.
Mae gan y gwasanaeth llyfrgelloedd ddewis eang o lyfrau a thaflenni gwybodaeth a hunan-gymorth am wahanol gyflyrau, yn ogystal â ffuglenni i hybu hwyliau. Profwyd fod darllen er pleser am gyn lleied â chwech munud y dydd yn cael effaith sylweddol ar leihau lefelau straen.
Mae gan y llyfrgell hefyd nifer fawr o wasanaethau ar-lein i helpu gofalwyr sy’n ei chael hi’n anodd mynd allan; gallwch adnewyddu llyfrau’r llyfrgell ar-lein ac archebu llyfrau i gyrraedd llyfrgell o’ch dewis ym Mhowys. Mae amryw o e-lyfrau ac adnoddau e-clywedol ar gael i’w defnyddio o’ch cartref yn ogystal â dolenni i adnoddau addysgol ar gyfer astudio.
Os ydych chi’n ofalwr ac am fanteisio ar y gwasanaeth, holwch y llyfrgell leol am fanylion.