Mae'r Rhaglen Arloesi Gofal wedi'i Gynllunio yn cyflwyno cyfle cyffrous i ysgogi newid ar draws sbectrwm y gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yng Nghymru, gan ddarparu cyllid a chefnogaeth i drawsnewid syniadau newydd yn fodelau darbodus, cynaliadwy o ofal wedi'i gynllunio.
Gwahoddir ceisiadau ar draws themâu eang atgyfeirio, arweiniad, triniaeth, gwaith dilynol ac wrth fesur y galw a'r canlyniadau. Mae'n agored i'r rheini sy'n gweithio ym maes darparu a rheoli gwasanaethau gofal wedi'u cynllunio yng Nghymru - gan gynnwys o ofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol, a chan sefydliadau cymunedol, gofal cymdeithasol a thrydydd sector.
Mae'r Rhaglen Arloesi Gofal wedi'i Gynllunio yn cymhwyso model arloesol Prosiectau Enghreifftiol Bevan i'r angen hanfodol i drawsnewid gwasanaethau gofal a gynlluniwyd yng Nghymru. Fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru a'i harwain gan Gomisiwn Bevan.
Am arweiniad a manylion Sesiynau Gwybodaeth sydd ar y gweill, ewch i www.bevancommission.org/plannedcare-cym
Yn ogystal, i ddarparu rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Arloesi Gofal wedi'i Gynllunio, bydd Comisiwn Bevan hefyd yn cynnal dwy Sesiwn Briffio Gwybodaeth. Bydd y Sesiynau Briffio Gwybodaeth yn cael eu cynnal (dolenni ar gyfer cofrestru ynghlwm):
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 15 Chwefror 2022