Neges gan Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru:
Croeso i’n seminarau misol sy’n darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth ehangach am gydraddoldeb, mudo, cydnerthedd, hunaniaeth, diwylliant a threftadaeth.
Mae ein seminar agoriadol yn ymwneud â’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol – paratoi’r ffordd ar gyfer cymdeithas fwy cynhwysol o safbwynt hil erbyn 2030, a bydd yn cael ei chynnal ar-lein ar Zoom ddydd Iau 25 Ionawr 2024 rhwng 5.00pm a 6.30pm.
I sicrhau eich lle, archebwch drwy ddilyn y ddolen isod:
https://ti.to/digital-past/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol
Prif siaradwyr:
Usha Ladwa-Thomas, Cynghorydd Hil a Phrifysgol Caerdydd: Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol – amlinellu’r siwrnai o ran datblygu’r Cynllun, a’r egwyddorion sy’n sail iddo.
Nashima Begum, Uwch-gynghorydd Polisi – Cydraddoldeb Hil, Yr Is-adran Ddiwylliant: Cyflawni’r Nodau a’r Camau Gweithredu ar gyfer Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon: Ein dull o weithredu.
Rajvi Glasbrook, aelod o’r panel holi ac ateb ac aelod o Dîm y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn fenter arloesol sy’n hybu gweledigaeth i sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Mae’r cynllun yn mynd i’r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol er mwyn hyrwyddo dinasyddiaeth weithgar a gwasanaethau teg ar draws pob sector, a’i nod yw gwneud newidiadau ystyrlon a mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Cafodd y cynllun ei lansio y llynedd. Mae’n seiliedig ar brofiadau go iawn, a chafodd ei ddatblygu ar y cyd ag ystod eang o gymunedau a sefydliadau.
Bydd yr awduron, Amrit Wilson a Bharti Dhir, yn siarad yn ein hail seminar sydd wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mercher 21 Chwefror 24, 5.00pm i 6.30pm ar y thema O Fudo i Wydnwch. Mae Amrit Wilson yn newyddiadurwraig arobryn ac yn ymgyrchydd ar faterion hil a rhywedd ym Mhrydain ac ar wleidyddiaeth De Asia. Mae hi’n un o sylfaenwyr y South Asia Solidarity Group ac ‘Awaaz’ - grŵp o ferched a oedd ar flaen y gad yn y frwydr dros hawliau i ferched Asiaidd yn y 1970au a’r 1980au. Cyhoeddwyd llyfr arloesol Amrit, ‘Finding a voice’, yn 1978 ac roedd yn cofnodi profiadau merched Asiaidd o gariad, priodas, perthnasoedd, cyfeillgarwch yn ogystal ag o hiliaeth ym maes tai, addysg ac o ran y gyfraith.
Mae Bharti Dhir yn weithiwr cymdeithasol cymwys sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant ac yn awdur 'Worth', sef cofiant Bharti fel menyw Affricanaidd-Asiaidd a fabwysiadwyd i deulu Pwnjabi, Sikhaidd, a'i stori am oresgyn hiliaeth, rhywiaeth, problemau iechyd a dianc o Uganda yn 1972 pan aeth Idi Amin ati i alltudio Asiaid. Bydd Bharti yn siarad am ei phrofiadau personol o oresgyn cael ei gadael, gwahaniaethu, ac adfyd i ddod o hyd i gryfder mewnol a hunan-werth i lunio ei ffawd.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gennych yn barod i wneud gwahaniaeth er gwell i fywydau pobl. Mae hefyd yn gyfle i wella sgiliau a phrofiad, a gall arwain at swydd gyda thâl.
Byddem yn croesawu gwirfoddolwyr i helpu i gyfweld, recordio hanesion llafar a’u harchifo, ac i gynorthwyo gyda’r gwaith o fapio a chofnodi lleoedd pwysig o safbwynt diwylliannol, crefyddol a hanesyddol.
Bwriedir cynnal sawl diwrnod hyfforddi i wirfoddolwyr ym mis Ionawr a mis Chwefror 2024. I archebu lle a chofrestru eich diddordeb mewn gwirfoddoli, anfonwch ebost at y prosiect: WAHproject(at)rcahmw.gov.uk.
Cymuned fuddiant
Gall pawb gefnogi’r prosiect drwy ymuno â chymuned fuddiant y prosiect i gael diweddariadau a hysbysiadau, gan gynnwys rhai am ein seminarau misol.
I glywed mwy am y seminarau a chael diweddariadau eraill, ymunwch â chymuned fuddiant y prosiect: http://eepurl.com/iALGp6