Darparwyd y llyfrau drwy bartneriaeth amlasiantaethol gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy gynllun yr Asiantaeth Ddarllen 'Darllen yn Well, Llyfrau ar Bresgripsiwn'.
Mae gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Sir Powys - sydd wedi cael cysylltiadau cryf â chodi ymwybyddiaeth o ddementia yn y gorffennol - ddwy set gyflawn o lyfrau wedi'u hargymell gan yr Asiantaeth Ddarllen, sy'n cael eu cadw yn llyfrgelloedd y Drenewydd ac Aberhonddu.
Mae'r llyfrau hefyd ar gael ar gais drwy system catalog llyfrgelloedd ar-lein neu mewn llyfrgell gangen leol ac fe'u hategir gan amrywiaeth o deitlau addas eraill sydd eisoes o fewn stoc y llyfrgelloedd. Mae'r Asiantaeth Ddarllen hefyd wedi gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru i gyfieithu llyfrau ar y rhestr i'r Gymraeg.
Ceir hefyd taflenni i gyfeirio pobl sy'n byw gyda phobl â dementia neu sy'n gofalu amdanynt yn ein cymunedau at y rhestr lyfrau, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a ffynonellau sy’n cynnig cyngor.
Ers ei lansio mewn mannau eraill yn y DU, mae Darllen yn Well wedi cyrraedd rhyw dri chwarter miliwn o bobl ac wedi cael ei gymeradwyo gan y cyhoedd, gan feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn ogystal â llywodraeth ganolog fel gwasanaeth iechyd cymunedol defnyddiol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Rachel Powell, mae Aelod Cabinet y Cyngor ar faterion Llyfrgelloedd: "Mae'r cynllun hwn yn pwysleisio manteision darllen llyfrau i'n hiechyd meddwl a'n lles. Mae'r rhestr yn cynnwys canllawiau cynghori i'r teulu, gan gynnwys plant, a gofalwyr yn ogystal â straeon personol am bobl sy'n byw gyda dementia. Mae llawer iawn o gyngor a gwybodaeth dda iawn yn y cyhoeddiadau hyn - ac os nad ydych yn aelod o lyfrgell eto, hoffem eich annog yn frwd i ymaelodi."