Rydym yn awyddus i dderbyn gweithiau celf bach ar unrhyw ffurf. Gall fod yn ffotograff a dynnwyd gyda lens macro; gwaith celf tu fewn i flwch matsis neu blisgyn cneuen Ffrengig; neu gân 15 eiliad o hyd.
Mae tair gwobr ar gael i’w hennill:
Gwobr 1af – Gwerth £50 o ddeunyddiau celf
2ail Wobr – Gwerth £30 o ddeunyddiau celf
3ydd Gwobr - Gwerth £15 o ddeunyddiau celf
Mae’r gystadleuaeth ar agor i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, a chaniateir anfon dau gynnig i’r gystadleuaeth. Mae’n rhaid inni dderbyn cynigion erbyn dydd Gwener 19eg Chwefror. Byddwn yn cyhoeddi enwau’r enillwyr ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Croeso ichi rannu’ch cynnig ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DyddGwylDewi a chofiwch ein tagio wrth wneud hynny:
Facebook – @artsconnectionpowys
Twitter – @Arts_Connection
Instagram - @artsconnectionpowys