Mae'r cymorth ychwanegol, fel rhan o drydedd rownd y Gronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru, ar gael i'r sectorau diwylliannol yng Nghymru wrth iddo barhau i gael ei effeithio gan bandemig Covid.
Bydd y gronfa yn cefnogi sefydliadau yr effeithir arnynt gan y mesurau lefel rhybudd 2 diweddar y mae Gweinidogion wedi'u rhoi ar waith i gadw Cymru'n ddiogel, ac yn helpu i reoli lledaeniad cyflym yr amrywiolyn Omicron newydd.
Bydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn lansio ei broses ymgeisio ar gyfer sefydliadau o fewn y sector celfyddydau heddiw (12 Ionawr 2022). Mae'r gronfa sefydlogrwydd y gaeaf a gyhoeddwyd yn flaenorol bellach wedi'i chyfuno â thrydedd rownd Cronfa Adfer y Gaeaf er mwyn sicrhau aliniad â'r cymorth ariannol sydd ar gael.