Bydd £10 miliwn ar gael o dan y Gronfa Band Eang Lleol er mwyn cefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflenwi prosiectau band eang yn lleol. Dyma un rhan o’n gwaith i helpu i sicrhau y gall pawb fanteisio ar seilwaith digidol cyflym a dibynadwy. Gyda chymorth y cyllid hwn bydd awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol yn gallu cynnig atebion band eang arloesol i gymunedau a rhannau o Gymru nad oes ganddynt fynediad at gyflymder band eang o 30Mbps ar hyn o bryd.
Gallwch weld y ffurflen gais, y canllawiau a’r meini prawf ar gyfer asesu ar ein gwefan https://llyw.cymru/y-gronfa-band-eang-lleol
Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect ond yr hoffech drafod y cynnig posibl ag aelod o’n panel cyllid cyn cyflwyno cais mae croeso i chi anfon e-bost at NextGenerationBroadB1(at)gov.wales i drefnu amser gyda ni.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau fydd 28 Ionawr 2021.
.