Mae’r Fforwm Bartneriaeth ar gyfer Pobl Hŷn yn chwilio am 5 cynrychiolydd ar ran pobl hŷn / defnyddwyr gwasanaethau o groestoriad o’r gymuned ar draws Powys i gyflwyno syniadau a barn a fydd yn dylanwadu ar benderfyniadau ar sut y bydd Gwasanaethau Gofal i Oedolion (ac Iechyd) Cyngor Sir Powys yn gwario’r arian sydd ar gael ac ar ba wasanaethau er budd pobl hŷn.
Fel cynrychiolydd, byddwch yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau ar gomisiynu gwasanaethau, cyfle i ddylanwadu ar bolisiau, dylunio gwasanaethau a chyflwyno gwasanaethau, gan sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n ateb anghenion pobl hŷn.
Bydd y Fforwm, trwy ei aelodau a’r Cyd-gadeiryddion, yn sicrhau bod y pynciau hyn yn cael eu bwydo trwy’r grwpiau gwasanaethau a’r cynllunio corfforaethol priodol gan gynnwys cyfarfodydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, Bwrdd Partneriaeth Heneiddio’n Dda a’r Uwch-dîm Rheoli er sylw / gweithredu.
Bydd angen i chi fynychu hyd at 6 chyfarfod y flwyddyn ac i helpu i gasglu profiadau a straeon pobl eraill i’w cyflwyno i’r cyfarfodydd hyn.
Mae’r Fforwm Bartneriaeth yn cael ei chadeirio ar y cyd gan reolwr Gofal Cymdeithasol i Oedolion a chynrychiolydd pobl hŷn. Bydd aelodau’r Fforwm yn cynnwys defnyddwyr y gwasanaeth, pobl hŷn, cynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Powys, cynrychiolydd o Powys Age Cymru ac o sefydliadau eraill y trydydd sector.
Byddwn yn trefnu siaradwyr arbenigol i drafod pynciau sy’n berthnasol a rhoi gwybod i aelodau’r grŵp pa wasanaethau presennol a newydd sy’n cael eu cynnig gan yr Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y cyfle, neu i wneud cais i fod yn gynrychiolydd, cysylltwch â:
Adam Greenow, Uwch-reolwr Pobl Hŷn, Cyngor Sir Powys, e-bost adam.greenow(at)powys.gov.uk neu galwch 01874612234.