Ceisiadau ar agor ar gyfer Gwobrau 2022

Rydym bellach yn croesawu ceisiadau ar gyfer Gwobrau 2022. Dyma’r gwobrau sy'n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu gwaith nodedig ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Mae’r gwobrau yn gyfle i chi fel tîm, grŵp neu sefydliad yn y sector cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gydweithredol yng Nghymru, i rannu eich llwyddiant gyda chydweithwyr ledled Cymru.

Mae gennym hefyd wobrau i weithwyr gofal unigol – Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg a Gwobr Gofalwn Cymru. Mae'r gwobrau yn agored i unrhyw weithiwr cyflogedig neu wirfoddolwr ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy'r gofal a'r cymorth y maent yn eu darparu.

Rydym yn gofyn i gydweithwyr, cyflogwyr, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth neu eu gofalwyr, eu teulu a'u ffrindiau i enwebu unrhyw weithwyr gofal yr hoffent eu gweld yn cael eu cydnabod gan y gwobrau hyn.

Mae Gwobrau 2022 yn cynnwys saith categori – mae pum categori ar gyfer timau, grwpiau a sefydliadau, a dau gategori ar gyfer gweithwyr gofal unigol.

Y categorïau ar gyfer grwpiau, timau a sefydliadau yw:

  • Adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd
  • Recriwtio a chadw staff yn effeithiol
  • Gofalu am a gwella llesiant y gweithlu
  • Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Y categorïau ar gyfer gweithwyr gofal unigol yw:

  • Gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg
  • Gwobr Gofalwn Cymru.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: "Yn 2020, roeddem wrth ein bodd nid yn unig gan y nifer uchaf erioed, ond hefyd gyda safon ac amrywiaeth y ceisiadau a gawsom ar gyfer y Gwobrau.

"Ers hynny, mae'r gwahaniaeth cadarnhaol y mae'r sectorau gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yn ei wneud i fywydau pobl wedi disgleirio’n fwy nag erioed. Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae ein gweithwyr gofal  wedi bwrw iddi o dan amgylchiadau heriol ac anodd iawn ac wedi dangos pa mor hanfodol a gwerthfawr ydynt.

"Bydd Gwobrau 2022 yn gyfle i ni ymfalchïo yn y gwaith rhagorol sydd wedi bod ar droed ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at gydnabod, dathlu a rhannu'r gwaith hwnnw.

"Rwy’n annog pawb sy'n gweithio ym maes gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae neu'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru i gyflwyno eu cais fel y gellir cydnabod eu gwaith da. 

"Yn yr un modd, os gwyddoch chi am wasanaeth neu ofal gwych sy'n haeddu cael ei gydnabod, anogwch nhw i ymgeisio am y Gwobrau neu eu henwebu ar gyfer gwobr unigol."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ac enwebiadau yw 5 Tachwedd 2021, am 5pm.

Dysgwch fwy am y Gwobrau 2022 a sut i ymgeisio neu enwebu gweithiwr gofal.

Yn nôl i’r frig 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity