Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Powys yn gweithio i hybu urddas y mislif.
I gefnogi merched a menywod o bob oed, mae Gwasanaeth Comisiynu Plant Powys yn cynnig gwasanaeth dosbarthu cynhyrchion i'r cartref am ddim. Mae'r gwasanaeth yn cael ei weithredu gan y fenter gymdeithasol arobryn, Hey Girls. Mae hyn yn ychwanegol at y cynhyrchion mislif sydd eisoes ar gael mewn ysgolion.
Archebwch eich cynhyrchion yma: https://cy.powys.gov.uk/cynhyrchionmislifamddim
Nifer cyfyngedig o gynhyrchion sydd ar gael ac maent am i'r cynhyrchion hyn fod ar gael i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.