Gweler y neges isod gan Wasanaeth Cyngor Arian Cyngor Sir Powys.
Felly, os ydych yn gwybod am rywun sy’n cael trafferth oherwydd colli incwm trwy fudd-daliadau, colli swydd neu ddiswyddiad, diwedd ffyrlo, cynnydd yng nghostau tanwydd neu broblemau dyledion – anfonwch hwy atom ni!
Mae Gwasanaeth Cyngor Ariannol Cyngor Sir Powys yn cynnig cefnogaeth gyfrinachol am ddim i unrhyw un sydd mewn trafferth ariannol. Yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf (2020/21) roedd wedi helpu 529 o drigolion Powys i gael buddion gwerth £2,046118.65 ychwanegol ac fe fyddai’r gwasanaeth yn hoffi helpu mwy o bobl.
Gall ein hymgynghorwyr achrededig sydd wedi’u hyfforddi:
- Gynnig cyngor dros y ffôn
- Cynnig cyngor wyneb yn wyneb yng nghartref y cleient neu yn swyddfa’r cyngor lleol
- Cyflwyno sesiynau cynghori yn y gymuned
Os oes unrhyw un angen ein help, gallant edrych ar wefan Cyngor Sir Powys a chwilio am ‘gyngor ariannol’. Yma fe fyddant yn canfod amrywiaeth o becynnau cefnogi am ddim i’w helpu i reoli eu harian yn well, a ffurflen ar-lein a fydd yn caniatáu iddynt ‘ofyn am gyngor ariannol’.
Fel arall, gallant ffonio 01874 612153 neu anfon e-bost at wrteam(at)powys.gov.uk a gofyn am help.
Mae’r pecyn hwn yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau y gellir eu hargraffu neu eu cyflwyno mewn ffurf ddigidol ar sgrîn arddangos. Rydym yn gobeithio y byddwch yn gwneud defnydd ohonynt i hyrwyddo ein gwasanaeth, fel y gallwn helpu hyd yn oed fwy o bobl ym Mhowys i gael heddwch meddwl ariannol.
Gwasanaeth Cyngor Ariannol Cyngor Sir Powys