Mae Y Bartneriaeth Awyr Agored yn tyfu, a bellach mae swyddogion datblygu gweithgareddau yn gweithio ym mhob ardal drwy Gymru.
Mae hyn yn golygu y gall clybiau awyr agored ar draws Cymru ymaelodi efo ni a derbyn cymorth mewn nifer o ffyrdd.
Ydych chi’n gwirfoddoli mewn clwb awyr agored ac angen cwblhau neu ddiweddaru eich cymhwyster Cymorth Cyntaf?
Cwrs Cymorth Cyntaf awyr agored (16 awr) ar Hydref 9-10fed yn Llangors, Aberhonddu.
Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael, ac os hoffech gael lle, e-bostiwch bethan.logan(at)partneriaeth-awyr-agored.co.uk am fwy o wybodaeth.
Gallwn wedyn drafod sut i ymaelodi y clwb efo’r Bartneriaeth Awyr Agored i dderbyn mwy o gefnogaeth!
Fel gwirfoddolwr, dim ond £20 y dydd fyddwch chi’n talu am y cwrs.