Wythnos Gwirfoddolwyr 2024 – sut i gymryd rhan

Syniadau i fudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yng Nghymru

Bydd *Wythnos y Gwirfoddolwyr, sy’n dathlu 40 mlynedd eleni, yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 3 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin 2024.

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn ymwneud â dathlu a diolch i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i wneud gwahaniaeth. Waeth a ydych chi’n rhan o fudiad gwirfoddol neu’n wirfoddolwr eich hun, dyma sut i wneud eich wythnos mor wych â phosibl.

MUDIADAU GWIRFODDOL

Gall mudiadau gymryd rhan yn Wythnos y Gwirfoddolwyr mewn llawer o ffyrdd, drwy ymhél â’r gymuned leol a dathlu’r rheini sy’n rhoi o’u hamser.

Mae canllawiau defnyddiol ac adnoddau y gellir eu lawrlwytho (yn Gymraeg a Saesneg) ar gael ar wefan Wythnos y Gwirfoddolwyr i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr wythnos. Gallwch hefyd *gofrestru i gael diweddariadau ar e-bost a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos y Gwirfoddolwyr.

GWIRFODDOLWYR

Mae *dwy brif ffordd y gall gwirfoddolwyr gymryd rhan yn Wythnos y Gwirfoddolwyr, waeth a ydych chi eisoes yn gwirfoddoli neu eisiau dechrau ar eich taith.

  • *Rhannwch eich stori wirfoddoli a dweud wrth eraill beth mae gwirfoddoli yn ei olygu i chi a sut mae’n effeithio ar bobl eraill. Waeth ai’r teimlad da rydych chi’n ei gael o’i wneud neu’r sgiliau a’r profiadau rydych chi’n eu hennill. Rhannwch eich stori ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosGwirfoddolwyr.
  • Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli am y tro cyntaf neu roi cynnig ar rywbeth newydd, edrychwch ar y dudalen *dod yn wirfoddolwr. Yma, gallwch chi hefyd ddod o hyd i wybodaeth am *Yr Help Llaw Mawr

MYFYRDODAU O’R WYTHNOS GWIRFODDOLWYR DDIWETHAF

Gwnaethom ni ofyn i’n Rhwydwaith, Gwirfoddoli Cymru, i nodi pethau y byddai’n dda ganddynt fod wedi meddwl amdanynt, a’u hawgrymiadau am opsiynau effaith uchel, cost isel i helpu i ddathlu Wythnos y Gwirfoddolwyr. Dyma rai o’u syniadau.

Mi hoffwn i fod wedi meddwl am …

  • Anfon ‘pecynnau trîts’ allan i’r rheini a fynychodd ddigwyddiadau dathlu ar-lein ymlaen llaw – gallen nhw fod wedi cael eu defnyddio’n rhyngweithiol wedyn yn ystod y digwyddiad
  • Coginio gyda gwirfoddolwyr – mae’n cael gwirfoddolwyr i gymryd rhan ac yn addysgu sgiliau newydd iddyn nhw
  • Gadael cacennau bach mewn mannau i ddweud diolch i’ch gwirfoddolwyr
  • Gweithio mewn partneriaeth â mudiadau eraill – dwbl y dwylo, hanner y cynllunio!

Effaith uchel, cost isel

  • Defnyddio cyfryngau cymdeithasol i rannu profiadau uniongyrchol drwy fideos a datganiadau gwirfoddolwyr
  • Rhannu proffiliau gwirfoddolwyr, gan gynnwys dyfyniadau, drwy gydol Wythnos y Gwirfoddolwyr ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn cylchlythyrau
  • Teithiau cerdded lles gyda rhywle i gael lluniaeth ar y diwedd fel y gall y rheini nad ydynt yn gallu cymryd rhan yn y daith barhau i fod yn rhan o’r gweithgaredd
  • Defnyddio riliau ar Instagram a Facebook i roi bywyd i ddatganiadau
  • Paru gwirfoddolwyr â’u diddordebau er mwyn cael effaith well a phrofiad gwirfoddoli mwy cynaliadwy

ADNODDAU

Mae adnoddau newydd sbon ar gael i’ch helpu chi i ddathlu 40 mlynedd o Wythnos y Gwirfoddolwyr:

RHAGOR AM WYTHNOS Y GWIRFODDOLWYR

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Gwirfoddolwyr 2024, ewch i’r wefan *volunteersweek.org.

Bydd ymgyrch Yr Help Llaw Mawr hefyd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnos, rhwng dydd Gwener 7 Mehefin a dydd Sul 9 Mehefin 2024. Mae gwybodaeth am honno yn *www.thebighelpout.org.uk.

*Saesneg yn unig

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity