[Translate to Welsh:] Jointly: A new app for carers.

Cymorth technegol ar gyfer gofalwyr di-dâl i’w cadw ar ben eu cyfrifoldebau gofalu.

  • Dywedodd 34% o ofalwyr di-dâl fod eu hiechyd meddwl yn wael neu'n wael iawn
  • Dywedodd bron i draean o ofalwyr di-dâl (32%) eu bod yn teimlo'n unig yn aml neu drwy’r amser

Mae yna gannoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl ar draws Cymru sy'n darparu gofal i aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n sâl, hŷn neu’n anabl. Ond mae arolwg diweddar gan Gofalwyr Cymru wedi darganfod bod gofalwyr di-dâl yn cael trafferth gyda gofynion eu rolau gofalu.

Mae llawer ohonom yn defnyddio technoleg yn ein bywydau bob dydd, ond dydy saith o bob deg o bobl ddim yn meddwl am dechnoleg o ran gofalu am deulu neu ffrindiau. Mae Gofalwyr Cymru yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio'r defnydd o dechnoleg i leihau'r pwysau ar ofalwyr di-dâl.

Cafodd Jointly ei ddatblygu ar y cyd gan Carers UK, a'i gynllunio mewn ymgynghoriad â gofalwyr di-dâl. Mae'n ap symudol ac ar-lein arloesol sydd wedi'i gynllunio i gefnogi gofalwyr. Mae'n gwneud gofalu ychydig yn haws, yn llai o straen, ac yn llawer mwy trefnus.

Mae'n cyfuno negeseuon grŵp a rhestrau o bethau i'w gwneud gyda nodweddion defnyddiol eraill, sy’n cynnwys rhestrau meddyginiaethau, calendrau a mwy Mae Jointly’n sicrhau  bod cyfathrebu a chydlynu rhwng y rhai sy’n rhannu’r gofal mor hawdd â neges destun.  

Yn ddiweddar, mae Gofalwyr Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi lansio ymgyrch hyrwyddo i annog gofalwyr i gael mynediad i'r Ap Jointly, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Anaml y bydd darparu gofal di-dâl yn rhywbeth y bydd rhywun yn ei wneud yn unigol, ac mae angen nifer o bobl, yn aml mewn cartrefi gwahanol, i gydlynu anghenion gofal. Mae'r Ap Jointly yn bwynt cyswllt unigol sy'n gallu storio cofnodion meddygol, apwyntiadau, anghenion o ran meddyginiaethau ac amserlenni a hwyluso cyfathrebu mewn un lle a rennir. Mae'r ap ar gael ar y ffôn, tabled a chyfrifiadur personol ac yn cael ei ddiweddaru mewn amser real, gyda maint grŵp diderfyn.

Mae lansio'r ymgyrch hyrwyddo hon yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru o fewn Strategaeth Gofalwyr 2021, i archwilio sut y gall defnyddio technoleg gefnogi gofalwyr a'r bobl hynny maen nhw’n gofalu amdanynt.

Wrth lansio'r ymgyrch hyrwyddo, dywedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

"Mae'n wych bod Carers UK wedi cynhyrchu'r Ap Jointly. Rydym yn byw mewn byd ar-lein, ac fe wnaeth y pandemig dynnu sylw at bwysigrwydd mynediad ar-lein at wybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Yn aml, mae'n rhaid i ofalwyr di-dâl gydbwyso nifer o dasgau ar yr un pryd, a bydd yr adnodd unigol ar-lein hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig ar ofalu sydd ei hangen arnynt mewn un lle. Rwy'n annog pob gofalwr di-dâl yng Nghymru i ddefnyddio'r ap er mwyn iddynt fedru elwa o'r gefnogaeth sydd ar gael."

Meddai Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru:

"Mae'r pandemig ac yna'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau enfawr ar ofalwyr di-dâl i gynnal eu cyfrifoldebau gofalu. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar wahanol ffyrdd o geisio sicrhau bod gofalwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, gan gynnwys defnyddio technoleg. Mae ein Ap Jointly yn galluogi gofalwyr i rannu eu cyfrifoldebau ag eraill. Mae'n helpu gofalwyr i gyfleu gwybodaeth feirniadol yn haws gydag eraill yn y cylch gofal am yr unigolyn sy'n derbyn gofal".

Mae'r App Jointly ar gael i'w lawrlwytho ar ddyfeisiau Apple ac Android trwy eu siopau Ap perthnasol, neu gellir ei archebu ar gyfrifiadur drwy fynd i Jointlyapp.com, Dim ond unwaith yn unig sydd yn rhaid prynu’r Ap Jointly, ac mae’ rhaid sicrhau ei fod yn gysylltiedig â'r person enwebedig sydd angen gofal. Y pris ydy £2.99. Nid oes angen talu’n ychwanegol i nifer o bobl ddefnyddio'r Ap ar ôl y taliad cychwynnol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn Saesneg: Jointly video English neu’n Gymraeg: Jointly video Welsh

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity