Dengys dadansoddiad diweddar y disgwylir i'r galw am ofal lliniarol yng Nghymru yng Nghymru godi dros 40% erbyn 2040.
Pa effaith a gaiff y tueddiadau hyn ar ddarpariaeth gofal mewn gwahanol leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru? Pa effaith y mae pandemig COVID wedi'i chael ar brofiadau pobl o farw gartref a sut mae'r 12 mis diwethaf wedi cyflymu'r angen i ymateb i'r galwadau cynyddol hyn?
Ymunwch â'n panel o arbenigwyr i gael trosolwg o'r amcanestyniad a'r dadansoddiad o leoliadau marwolaeth a gynhaliwyd gan Goleg Kings Llundain a sut mae Rhaglen Diwedd Oes ddiweddaraf Marie Curie wedi tynnu sylw at yr effaith ar bobl sydd wedi marw gartref yn ystod y 12 mis diwethaf. Gwrandewch ar ein harbenigwyr mewn gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru sydd yn paratoi i ymateb i'r heriau hyn yn y dyfodol, a dewch â'ch arbenigedd a'ch profiadau chi er mwyn llywio'r drafodaeth bwysig hon.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Rhun ap Iorwerth MS a'n panel o arbenigwyr yw:
Dr Anna Bone, Ymchwilydd Cysylltiol, The Better End of Life Programme, Coleg Kings Llundain
Dr Idris Baker, Yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Diwedd Oes yng Nghymru.
Dr Cliff Jones, GP, and Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal Diwedd Oes Coleg Brenhinol Meddygon Cymru.
I gofrestru eich diddordeb cysylltwch â Bethan.Edwards(at)mariecurie.org.uk a chadwch y dyddiad!
Bydd cyfarwyddiadau ymuno a briff i’r sesiwn yn cael eu dosbarthu wythnos cyn y digwyddiad er mwyn amlygu'r ymchwil a fframio'r drafodaeth.
Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau trydydd sector sy'n cael eu cynnal drwy gydol yr haf a'r hydref, gan gynnwys Hospices UK Seamless and Sustainable gyda'r bwriad o gydweithio a llunio tirwedd polisi gofal diwedd oes yng Nghymru ar y cyd.