Dyma’r digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru, wedi’i ddylunio’n arbennig i bobl sy’n rhan o fudiadau gwirfoddol gwych Cymru.
Efallai y bydd y digwyddiadau canlynol yn arbennig o ddiddordeb i chi:
- Addasu i’r gweithlu newidiol: cefnogi cyflogeion â chyfrifoldebau gofalu
- Sgwrs Codi Ymwybyddiaeth Aren Cymru
- Trawsnewid profiad gofalwyr di-dâl o’r maes iechyd a gofal cymdeithasol: y prosiect Ymwybyddiaeth o Ofalwyr
- Byw’n dda gyda salwch hirdymor
- Gwerth gwirfoddoli o fewn modelau gofal integredig
Mae’r rhaglen lawn yn cynnwys dros 70 o ddigwyddiadau sy’n amrywio o sgyrsiau ynghylch argyfwng yr hinsawdd ac areithiau ar gyllid torfol, i drafod yr hyn y gall y sector ei wneud i wella’r argyfwng costau byw – a hefyd cyfleoedd i rhwydweithio wyneb yn wyneb trwy gydol yr wythnos, diolch i’n partneriaid ar draws Cymru trwy gydol yr wythnos.
gofod3 yw eich lle i fyfyrio a rhoi hwb i’ch cynlluniau tuag at adeiladu’n ôl yn gryfach yng Nghymru – peidiwch â cholli’r cyfle! Ewch draw i gofod3.cymru i edrych ar y rhaglen a chofrestru ar gyfer digwyddiadau cyn iddynt lenwi.