Maent yn cael eu cynnal dros Microsoft Teams gan Nikki Thomas-Roberts o Phoenix Mindful Living sydd wedi gwneud gwaith tebyg gyda gofalwyr di-dâl a gwirfoddolwyr y sir.
Bydd y sesiynau tair awr yn cynnwys cyflwyniad i ddulliau, adnoddau a sgiliau hunanofal a hunandosturi, a seicoleg gadarnhaol a’r ‘ddawn diolchgarwch’ gyda’r nod o “adfer cydbwysedd a harmoni a bod yn dawel eich meddwl”.
Dyma ddyddiadau’r sesiynau grŵp gyda Nikki:
- Dydd Gwener 19 Awst, 1-4pm
- Dydd Gwener 2 Medi, 1-4pm
- Dydd Gwener 16 Medi, 1-4pm
- Dydd Gwener 7 Hydref, 1-4pm
- Dydd Gwener 28 Hydref, 9.30am-12.30pm
Bydd y sesiynau un i un yn ymdrin â’r un pynciau dros awr a hanner, un ai dros Microsoft Teams neu alwad ffôn.
Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle, cysylltwch â Nikki Thomas-Roberts ar 07803 472316 (6-8pm unrhyw noson o’r wythnos neu unrhyw bryd ar ddydd Sadwrn) neu e-bostiwch: phoenixmindfulliving(at)gmail.com
Hefyd mae gan Nikki lle i bum aelod staff ar Gwrs Byw’n Seiliedig ar Ymwybyddiaeth ofalgar, dros wyth wythnos, eto dros Microsoft Teams, yn dechrau Dydd Gwener 12 Awst, rhwng 10am a 12pm.
Am fwy o wybodaeth ar MBLC a Phoenix Mindful Living, ewch i PAVO Health and Wellbeing blog
Nikki Thomas-Roberts
Arweinydd Sesiynau, Phoenix Mindful Living