Dydd Iau 18 Tachwedd o 2 – 4.30pm
Cewch fod yn bresennol yn y digwyddiad rhithiol hwn am ddim..
Ynghylch prosiect Rhagnodi Cymdeithasol Mind Cymru
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, bu Mind Cymru a phedair cangen o Mind lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu a phrofi model o ragnodi cymdeithasol sy’n addas ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Cafodd y prosiect ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gyda’n Gilydd dros Iechyd Meddwl ac mae wedi cefnogi dros 2,000 o bobl ledled Cymru. Darllenwch mwy am y prosiect yma.
Ynghylch y digwyddiad
Yn Rhagnodi Cymdeithasol dros Iechyd Meddwl, byddwn yn clywed sut y mae rhagnodi cymdeithasol yn gallu cael effaith bositif ar iechyd meddwl cleientiaid, a sut mae’r prosiect wedi cefnogi pobl trwy’r pandemig coronafeirws. Ymunwch yn y digwyddiad i glywed y canfyddiadau allweddol o adroddiad arfarnu’r prosiect a darganfod sut mae cynnwys cefnogaeth iechyd meddwl mewn technegau rhagnodi cymdeithasol yn gallu bod o fudd i gleientiaid.
Cofrestrwch yma os oes diddordeb gennych chi yn y digwyddiad.