Yn 2021 fe wnaethom ryddhau ein hymchwil.
Mae ‘It’s Soul Destroying’ yn rhoi cipolwg unigryw ar y profiadau hynny ac yn cyfleu negeseuon pwysig i bob un ohonom sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Ymunwch â ni wrth i ni rannu’r mewnwelediadau allweddol o’r ymchwil hwn a thynnu sylw at wasanaethau newydd ac unigryw i blant a phobl ifanc sy’n profi casineb yng Nghymru.
Mae'r sesiwn hon yn agored i unrhyw un sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, neu'r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud hynny.
Sesiynau rhithwir yw’r rhain a gynhelir ar Zoom (gwnewch yn siŵr y bydd gennych fynediad i Zoom pan fyddwch yn cadw lle ar y sesiwn).
Bydd manylion ymuno yn cael eu hanfon cyn y digwyddiad.
Dilynwch ni yn @VictimSupportHC ac ymunwch â'r sgwrs gan ddefnyddio'r hashnodau: #DiwrnodRhyngwIadolleuenctid
Mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru yn wasanaeth troseddau casineb arbenigol ac unigryw sy’n cefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru.