Yn dilyn proses recriwtio fewnol, mae’n bleser gennyf gyhoeddi mai Clair Swales yw ein Prif Weithredwr Dros Dro newydd yn dilyn ymadawiad Carl.
Bydd Clair yn dechrau yn ei swydd yn swyddogol ar 17 Hydref a bydd yn gweithio'n agos gyda Carl yr wythnos hon ar drosglwyddiad trefnus.
Mae bwrdd PAVO a minnau’n edrych ymlaen at weithio gyda Clair a’i chefnogi yn ystod ei chyfnod interim. Mae’r cyfuniad o brofiad Clair o fewn PAVO a’r trydydd sector ehangach, ei steil arwain tosturiol a’i hegni yn ei gwneud yn ffit delfrydol ar gyfer y cyfnod pontio hwn o fewn PAVO. Rydym yn gweithio ar gael Prif Swyddog Gweithredol parhaol mewn lle erbyn Ebrill 2023.
Rwy’n hyderus y bydd tîm cyfan PAVO yn dod at ei gilydd yn ystod y cyfnod hwn ac yn cynnig eu cefnogaeth lawn i Clair wrth inni barhau i ddarparu ein safon uchel o wasanaeth.
Jamie Burt
Cadeirydd / Chair PAVO