Mewn uwchgynhadledd cymdeithas sifil gyda phedair gwlad y DU, rhoddodd Mark Drakeford MS 'chwe awgrym' ar gyfer llwyddiant wrth ddylanwadu ar bolisi'r llywodraeth yn seiliedig ar gydberthynas unigryw cymdeithas sifil gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer elusennau, grwpiau gwirfoddol, pobl academaidd, undebau llafur ac eraill.
Byddwch yn ddiffuant
Rhybuddiodd yn erbyn y demtasiwn o ‘ddilyn y ffasiwn ddiweddaraf;’ gan ddweud y byddai ‘newid eich ffurf’ i ddiwallu anghenion cyllidwyr yn tanseilio cydberthnasau â’r Llywodraeth. Rhaid i chi fod yn ‘chi’ch hunan’ a bod yn barod i ddadlau pan mae’r ‘gwynt yn chwythu yn eich wyneb’.
Byddwch yn awdurdodol
Pan fydd gennych chi bethau i’w dweud, rhaid i chi ‘wneud y gwaith, cael grym y ddadl y tu cefn i chi’n gadarn’, ac ystyried profiadau’r bobl sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â’ch gwasanaethau.
Byddwch yn lleol
Y peth mwyaf pwerus yw gallu adlewyrchu profiadau lleol y bobl rydych chi’n eu cefnogi. ‘Mae cael eich magu yng Nglan yr Afon, Caerdydd, yn brofiad gwahanol iawn i gael eich magu ym Mhen Llŷn yng ngogledd Cymru’, ac mae angen i chi adlewyrchu hyn.
Byddwch yno (pan gaiff penderfyniadau eu gwneud)
Waeth pa mor awdurdodol ydych chi, mae’n rhaid i chi gofio bod yno – i fod yn yr ystafell a ddim bod yn absennol pan gaiff penderfyniadau eu gwneud.
Byddwch yn uchel eich cloch
Siaradwch dros y bobl na fyddai ag unrhyw lais o gwbl fel arall. Rydym wedi colli rhai o’r mudiadau hynny a oedd yn barod i ddweud pethau anodd.
Byddwch yn feiddgar
Mae llawer o fudiadau yn llai beiddgar nawr yn y ffordd y maen nhw’n cyflwyno argymhellion. Mae trafodaethau yn fwy sydyn, ond mae angen mwy o ddewrder moesol.
Gallwch ddarllen mwy yma.