Mesur y Mynydd (MtM) - nawr yn recriwtio ar gyfer Rheithgor Dinasyddion 2020!

Bydd MtM yn cynnal ei ail Reithgor Dinasyddion yn Stadiwm Dinas Caerdydd, rhwng Mai 18fed a Mai 22ain 2020 ac rydym yn chwilio am bobl i gymryd rhan fel Rheithwyr.

Fel Rheithiwr byddwch yn gweithio gyda 12 i 15 o gyfranogwyr eraill i ateb cwestiwn y byddwn yn ei osod ichi ar ddechrau'r broses. Byddwch chi a'r Rheithwyr eraill, gyda chefnogaeth Hwylusydd, yn holi Tystion, yn ystyried y dystiolaeth y maen nhw'n ei chyflwyno ac yna'n dod i gasgliadau ac yn gwneud eich argymhellion.

Rydym yn chwilio am unigolion 18 oed a hŷn a hoffai fod yn Rheithwyr. Rydym am i'r Rheithgor adlewyrchu poblogaeth Cymru ac rydym yn chwilio am gronfa amrywiol o unigolion sydd â diddordeb. Dewisir y Rheithwyr terfynol ym mis Ebrill.

Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol arnoch o ofal cymdeithasol yng Nghymru - darperir yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch fel rhan o'r broses.

Rydyn ni am i’r profiad o fod yn Rheithiwr fod yn un diddorol a phleserus - mae hwn yn gyfle cyffrous, ac yn gyfle i chi fod yn rhan o ddull arloesol ac anghyffredin o drafodaethau polisi, a dweud eich dweud ar fater critigol.

Ewch i www.mtm.wales/citizens-jury-2020 i ddarganfod mwy ac i gofrestru'ch diddordeb mewn cymryd rhan.

Neu cysylltwch â Katie gydag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau - Katie.cooke(at)southwales.ac.uk / 07964 407 739.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity