Mae ymgyrch iechyd meddwl 'Gofala Am Dy Ben' Sefydliad DPJ yn lansio'r wythnos hon.

Gan ddechrau ddydd Llun 14 Chwefror 2022 tan ddydd Sul 20 Chwefror mae Sefydliad DPJ yn lansio eu hymgyrch wythnos "Gofala Am Dy Ben" gyntaf, i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn amaethyddiaeth.

Mae wedi bod yn ddwy flynedd anodd gyda'r pandemig, ac mae'n gyfnod prysur o'r flwyddyn i ffermwyr, gyda wyna, lloia a gwaith fferm cyffredinol felly ni fu erioed yn bwysicach gofalu am ein pen a'n hiechyd meddwl.

Meddai Gareth Wyn Jones, ffermwr adnabyddus o Ogledd Cymru, a fydd yn rhannu ei neges ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos honno, "Mae ein gwaith bob dydd fel ffermwyr yn llawn straen, felly mae'n bwysig iawn i ni fel pobl rannu ein problemau gydag eraill, i rannu'r baich."

 

Sefydlwyd Sefydliad DPJ gan Emma Picton-Jones nôl ym mis Gorffennaf 2016 ar ôl marwolaeth Daniel Picton Jones. Roedd Daniel yn gontractwr amaethyddol, wnaeth ei hunanladdiad gyffwrdd llawer yn y gymuned ffermio. Ar ôl ei farwolaeth, sylweddolodd Emma fod bwlch mawr yn y system, roedd diffyg cefnogaeth ar gael i'r rhai sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael mewn cymunedau gwledig. Yn ei enw mae Sefydliad DPJ yn defnyddio stori Daniel i helpu eraill sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael. Nod y sefydliad yw cefnogi pobl yn y sector amaethyddol sydd ag iechyd meddwl gwael.

Dywedodd Elen Gwen o Sefydliad DPJ, "Ein nod ar gyfer wythnos 'Gofala Am Dy Ben' yw dangos sut i ofalu am ein iechyd meddwl o fewn y byd amaethyddiaeth a rhannu negeseuon cadarnhaol ynghylch a iechyd meddwl a lles. Mae llawer o heriau'n wynebu'r sector amaethyddiaeth, ac mae'n bwysig bod pobl yn gwybod bod cymorth ar gael pan fydd pethau'n effeithio ar ein hiechyd meddwl, ond hefyd yr hyn y gallwn ei wneud ein hunain ac yn fwy bwysig nad ydym ar ein pen ein hunain."

Cydweithio gydag ymgyrch iaith Gymraeg i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o rym a dylanwad y meddwl Nerth Dy Ben, meddai Alaw Llwyd Owen o Nerth Dy Ben ac yn bencampwr rhanbarthol i Sefydliad DPJ "Mae'n grêt gallu cydweithio hefo elusen sy'n darparu cymorth ac sy'n codi ymwybyddiaeth o fewn y diwydiant amaeth am salwch meddwl. Fel sefydliad, mae Nerth Dy Ben yn ymgyrchu i atgoffa y gymuned wledig Gymraeg am y cryfder sydd gennym ni gyd i ddygymod a heriau bach dyddiol bywyd. Mae gallu croesawu elusen mor werthfawr â Sefydliad y DPJ i ymuno â ni yn y sgwrs ac i gyd weithio ar yr ymgyrch benodol yma yn gyfle euraidd i agor y drafodaeth am yr hyn y medrwn ni ei wneud o ddydd i ddydd i ofalu ac i gynnal y cryfder hwnnw.”

Mae Sefydliad DPJ yn annog pobl i gyfrannu drwy rannu'r neges am ofalu am eu pen. Os hoffech chi gymryd rhan, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhannu lluniau neu fideos ar eich cyfryngau cymdeithasol o'r hyn rydych chi'n ei wneud, delio â heriau bob dydd, yn enwedig wrth wynebu pethau sy'n achosi straen yn ogystal â rhannu awgrymiadau ar sut rydych chi'n cynnal eich lles a'ch gwydnwch eich hun. Cofiwch ddefnyddio ein hashnod #GofalaAmDyBen yn ogystal â thagio Sefydliad DPJ a Nerth Dy Ben.

Os oes angen help arnoch, gallwch ffonio Sefydliad DPJ am ddim ar 0800 587 4262 neu anfon neges destun atynt ar 07860 048 799 (nid yw'r rhif hwn yn derbyn galwadau).

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity