Mae Sefydliad DPJ yn dathlu 4 blynedd o helpu ffermwyr Cymru i Rannu’r Baich.

Dydd Sadwrn y 15fed o Ionawr 2022 bydd Sefydliad DPJ yn dathlu carreg filltir wrth i'r gwasanaeth “Rhannwch Y Baich” fod yn gwasanaethu am 4 mlynedd.

Gwrando, cefnogi a helpu pobl ar draws Cymru yn y sector amaethyddol. Dechreuodd yn Sir Benfro ac ers mis Hydref 2019 maen nhw rŵan yn gwasanaethu ledled y wlad, mae Sefydliad DPJ wedi darparu cwnsela i fwy na 500 o bobl.

Mae Rhannwch Y Baich yn llinell destun 24/7 gyfrinachol gyda gwasanaeth cyfeirio cwnsela (am ddim), yn benodol ar gyfer y rhai mewn amaethyddiaeth. Mae Sefydliad DPJ yn ymfalchïo yn eu gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi gan y Samariaid sydd bob amser yno pan fo angen nad ydynt yn feirniadol. Mae Rhannwch Y Baich yn wahanol i lawer o linellau cymorth gan ei fod yn rhoi'r dewis o gwnsela proffesiynol wedi'i ariannu'n llawn yn Gymraeg neu'n Saesneg i'r rhai sydd ei eisiau.

Dywedodd Emma Picton Jones, a sefydlodd yr Elusen 5 ½ mlynedd yn ôl yn dilyn marwolaeth ei gŵr Daniel drwy hunanladdiad "Wnes i erioed ddychmygu y byddai'r syniad o ddarparu cwnsela am ddim i'r rhai yn y gymuned amaethyddol wedi mynd mor bell ag y mae wedi'i wneud 4 blynedd yn ôl. Rwyf yn hynod falch o'r gwasanaeth hwn: mae gwybod bod gan bob ffermwr yng Nghymru fynediad at gwnsela am ddim, boed gartref, ar y fferm neu yn yr ardal leol yn rhywbeth na allem fod wedi breuddwydio amdano erioed.  Rwyf mor ddiolchgar i'n holl wirfoddolwyr gwych sydd wedi darparu oriau o gefnogaeth ar y llinell alwadau dros y 4 blynedd diwethaf."

Aeth ymlaen i ddweud “pan sefydlwyd Rhannwch Y Baich, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod galwyr yn gwybod bod eu galwad yn gyfrinachol. Dyma pam rydym ond yn gofyn am eich enw cyntaf a ddim eich cyfeiriad.  Roeddwn hefyd yn ymwybodol o'r amseroedd aros hir felly rwyf yn falch iawn ein bod yn gwarantu mynediad at gwnsela am ddim o fewn wythnos i rywun sy'n gwneud yr alwad honno”. Wrth siarad am y tîm o tua 50 o gwnselwyr ledled Cymru dywedodd Emma "mae ein cwnselwyr yn weithwyr proffesiynol cymwysedig a gallant helpu gydag pob math o faterion.  Mae gennym arbenigwyr sydd wedi helpu pobl sy'n cael trafferth gyda phrofedigaeth, teimlo'n unig, delio â materion iechyd neu broblemau iechyd meddwl yn ogystal â'r rhai sydd wedi bod yn ystyried dod â'u bywyd eu hunain i ben.  Mae gennym dîm gwych o wirfoddolwyr, cwnselwyr a staff ac rwyf mor falch ohonynt i gyd".

Bydd Sefydliad DPJ yn nodi'r pen-blwydd hwn drwy rannu rhai straeon sydd wedi'u cyfrannu gan bobl y maent wedi'u helpu ar draws eu cyfryngau cymdeithasol.  Un o'r rhain a ofynnodd am rannu eu stori yw Dan sy'n dweud "Pan oedd fy iechyd meddwl ar ei waethaf, ni allwn weld ffordd allan. Rwyf wedi cael cwnsela ac mae wedi bod yn oriau gorau fy mywyd. Dwi mewn lle mor dda nawr dwi'n mwynhau pob rhan o fy nheulu a'm gwaith, yn cysgu'n dda, ac yn bwyta'n dda”. Os ydych wedi cael cymorth gan Sefydliad DPJ ac os hoffech ddefnyddio'ch stori i helpu pobl eraill, maent yn gofyn i chi gysylltu â nhw drwy e-bostio kate@thedpjfoundation.co.uk, ffonio 07984 169652 neu anfon neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Maen nhw hefyd yn galw am eich help i ledaenu'r gair am y llinell gymorth Rhannwch Y Baich drwy arddangos posteri, taflenni, sticeri car, trelar a bêls unrhyw le y gallwch chi. 

Llongyfarchiadau i Sefydliad DPJ ar daro'r garreg filltir hon ac maent yn edrych ymlaen at helpu mwy o bobl yn y 12 mis nesaf.  Os oes angen help arnoch, gallwch eu ffonio am ddim ar 0800 587 4262 neu anfon neges destun atynt ar 07860 048 799 (nid yw'r rhif hwn yn derbyn galwadau). 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity