Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn ein cymunedau'n darparu gofal ond nid ydynt yn gweld eu hunain fel gofalwyr di-dâl ac nid ydynt yn ymwybodol o'u hawliau. Efallai nad ydynt yn ymwybodol o ba gymorth sydd ar gael neu efallai eu bod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gymorth.
Ers tair blynedd mae Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth, a chael eu hariannu gan Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi’r gwaith o adnabod gofalwyr hŷn yn gynnar, a sicrhau bod ganddynt help i ddod o hyd i’r wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt. Mae'r bartneriaeth hefyd yn sicrhau bod eu lleisiau'n
cael eu clywed, gan alluogi gofalwyr hŷn i ddylanwadu ar bolisi a chynllunio a darparu gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi ymgymryd â nifer o fentrau er mwyn cefnogi amcanion y prosiect hwn. Mae grŵp Cymuned o Ymarferwyr wedi'i sefydlu gyda gweithwyr proffesiynol ar draws y sector dementia, er mwyn deall y Llwybr Safonau Dementia fel y mae'n ymwneud â gofalwyr pobl sy'n byw gyda Dementia. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i ddeall rhagnodi cymdeithasol yng Nghymru yn well, fel y mae'n ymwneud â gofalwyr hŷn. Mae'r sefydliad yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau academaidd a llunio polisïau, gan weithredu fel rhan o'r gweithgor ar gyfer datblygu fframwaith Cymru ar gyfer rhagnodi cymdeithasol.
Mae Age Cymru wedi bod yn cyfarfod â gofalwyr hŷn o bob cwr o Gymru, mewn digwyddiadau ymgysylltu rhanbarthol, hybiau cymunedol, marchnadoedd, yr Eisteddfod Genedlaethol a thu hwnt, yn ogystal â chynnal arolygon cenedlaethol a dwsinau o gyfweliadau unigol 1-2-1 gyda gofalwyr hŷn. Hefyd, datblygwyd nifer o lawlyfrau ac adroddiadau defnyddiol, y gellir eu lawrlwytho o'r wefan neu eu hanfon drwy'r post.
Mae'r prosiect wedi cael cyllid am ddwy flynedd ychwanegol, ac mae'r tîm yn awyddus iawn i gwrdd â gofalwyr hŷn, gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia a'r gweithwyr proffesiynol sy'n gallu eu hadnabod a'u cefnogi.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, gan gynnwys ystod o adroddiadau ac adnoddau defnyddiol i ofalwyr, gweler agecymru.org.uk/carers a www.carers.org/wales neu cysylltwch â ni ar 029 2043 1555, a gofynnwch am siarad â'r Tîm Prosiect Gofalwyr.