Lansio prosiectau peilot ym Mhowys i gyd-drefnu gofal a chefnogaeth

Mae pedwar prosiect peilot wedi dechrau ym Mhowys i weld pa fudiadau all gyd-drefnu anghenion pobl sy’n byw gyda chanser orau yn ystod adegau allweddol eu llwybr canser, o ddiagnosis, triniaeth a thu hwnt.

Mae’r pedwar prosiect peilot wedi eu hariannu gan Gefnogaeth Ganser Macmillan ac maen nhw’n rhan o raglen flaengar o’r enw ‘Gwella’r Daith Ganser ym Mhowys’. Bydd yn cynnwys The Bracken Trust, Credu, tîm lliniarol arbenigol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO).

Bydd pawb sy’n cysylltu â’r rhaglenni peilot, neu sy’n cael eu hatgyfeirio atyn nhw am y tro cyntaf, yn llenwi Asesiad Anghenion Cyfannol electronig. Nod y rhestr wirio o destunau yma yw cofnodi anghenion a phryderon allweddol cleifion yn dilyn diagnosis o ganser gan gynnwys blinder, arian, gwaith, deiat, meddyginiaeth a mwy.

Caiff yr unigolyn lenwi’r asesiad ar-lein neu bapur heb iddyn nhw symud o’u cartref, neu, os yw’n haws, yn un o safleoedd y peilot pan fyddan nhw’n ailagor trwy ddefnyddio llechen.

Unwaith bod yr asesiad wedi cael ei gwblhau, mae’r tri neu’r pedwar pryder mwyaf yn cael eu trafod ac mae cynllun gofal manwl yn cael ei ddatblygu. Mae’r pecyn unigol o gefnogaeth, cyngor a gwybodaeth hwn yn canolbwyntio ar yr unigolyn cyfan a’u hanghenion emosiynol, ymarferol, corfforol, cymdeithasol ac ysbrydol.

Dywedodd Ann Williams, Rheolwr The Bracken Trust, sy’n cynnig cyngor nyrsio, therapïau cyflenwol, cwnsela a chefnogaeth i oddeutu 300 o bobl ym Mhowys sy’n byw gyda chanser:

“Rydym yn falch o fod yn rhan o raglen ‘Gwella’r Daith Ganser ym Mhowys’ ac rydym wedi bod yn defnyddio ffurf bapur o asesiad anghenion cyfannol Macmillan am nifer o flynyddoedd. Mae’n bleser gennym fedru ei ddarparu’n electronig bellach. Bydd hyn yn creu proses gofal haws ar gyfer yr unigolyn a bydd yn caniatáu iddyn nhw gael copi i’w rannu ymhlith pobl eraill sydd ynghlwm â’u gofal i sicrhau bod pawb yn cydweithio gyda’i gilydd.”

Dywedodd Clair Swales, Pennaeth Iechyd a Lles gyda PAVO:

“Bydd dau o’n cysylltwyr yn arwain ein peilot ond byddan nhw’n helpu unrhyw un sy’n cysylltu gyda diagnosis os nad ydyn nhw wedi cael cynnig yr asesiad trwy eu hysbyty neu wasanaeth arall. Mae gan ein cysylltwyr wybodaeth leol ac mae parch mawr tuag atyn nhw yn eu cymunedau priodol. Maen nhw’n gweithredu fel hyrwyddwyr i bobl leol y mae angen cyngor arnynt o ran lle i fynd i gael cefnogaeth. Rydym wedi ein hysbrydoli gan botensial rhaglen Gwella’r Daith Ganser i wella gofal canser i drigolion Powys.”

Dywedodd Becky Evans o fudiad Credu

“Mae’r ymadrodd “pobl sy’n byw gyda chanser” yn aml yn cael ei ddehongli fel pe na bai ond yn cyfeirio at yr unigolyn gyda’r diagnosis. Ond y gwir yw, mae’n ehangach na hynny ac yn cynnwys y rhai hynny sy’n gofalu am yr unigolyn - sydd yn aml iawn yn berthynas deulu agos. Bydd ein peilot yn canolbwyntio ar lais y gofalwr er mwyn profi sut mae’r asesiad anghenion cyfannol yn gweithio iddyn nhw. Fe wyddom yn barod bod eu cyfraniad a’r rhan maen nhw’n ei chwarae’n allweddol o ran y gofal a’r gefnogaeth sy’n cael ei roi i anwyliaid gyda diagnosis o ganser. Mae gwrando ar y gofalwr a chynnig cymorth iddyn nhw yn ddull newydd ac rydym yn awyddus i ymchwilio iddo a dysgu ohono.”

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Partneriaethau Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru:

“Rydym yn gwybod bod Covid wedi rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaeth iechyd gwladol a bod cannoedd o bobl sydd wedi cael diagnosis o ganser yn barod wedi gweld triniaethau’n cael eu gohirio neu lawdriniaeth yn cael ei chanslo. Dywedais yn ôl ym mis Hydref pan lansion ni’r rhaglen hon na allwch roi canser ar ffyrlo. Ar gyfer y cleifion canser hynny ym Mhowys sydd wedi cael diagnosis, nod y peilot yma yw cynnig pecyn o gefnogaeth wedi’i deilwra sy’n seiliedig ar eu hanghenion unigol. Bydd yr hyn rydym yn ei ddysgu dros y misoedd nesaf yn amhrisiadwy. Bydd yn gwella ac yn datblygu model gofal sy’n ateb y gofyn yn y sir.” 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity