Cefnogaeth Grŵp
Byddwn hefyd yn cynnig sesiynau grŵp ar gyfer hyd at 12 o bobl i gefnogi iechyd corfforol a meddyliol. Canfuwyd bod sesiynau grŵp yn creu teimlad o ddiogelwch drwy gydweithio gydag eraill sy’n profi symptomau tebyg, gan ganiatáu ymddiriedaeth i ddatblygu dros amser yn ogystal â gweithio gyda therapyddion proffesiynol sydd â phrofiad o gynnal grwpiau.
Ein ffurflen gais Cymorth Grŵp
Byddwn yn derbyn ceisiadau am hyd at ddydd Gwener 9 Rhagfir.
Yr Addysgwr Symudiad Somatig a’r Athro Yoga Frankie Walker
Yn cynnig: Symudiad i hybu Iechyd a Lles.
Arferion ail-batrymu symudiadau ysgafn ond effeithiol i gefnogi: cydbwysedd meddyliol, symudedd corfforol a’r rhai sy’n adfer yn dilyn llawdriniaeth neu anaf.
Gall helpu pobl sy’n byw gyda phoen i reoli poen.
Gall fod o gymorth i’r rheiny sydd wedi colli hyder o ran defnyddio’u cyrff ar gyfer patrymau symud arferol, creadigol ac iach.
Gall fod o gymorth i’r rheiny sy’n ceisio rheoli straen, gorbryder ac iselder.
Gall fod o gymorth i’r rheiny sy’n byw gyda phroblemau symudedd.
Addas ar gyfer pobl all deithio’n ddiogel i ac o leoliad y therapi yn ddigymorth.
Seicotherapydd Symudiad Dawns Michelle Warner Borrow.
Yn cynnig: Grŵp Seicotherapi Symudiad Dawns. (Does dim angen profiad dawns)
Grŵp cyfrinachol caeedig lle bydd aelodau’n cael cyfle i archwilio eu hunain, eu teimladau a’u profiadau gyda’i gilydd.
Gyda’r opsiwn i fynegi trwy symudiad, chwarae creadigol a geiriau. Bydd y ffocws ar y broses o fod mewn grŵp er mwyn ein helpu i ddeall ein hunain mewn perthynas ag eraill a’r byd ehangach. Bydd hwn yn ofod sensitif fydd yn helpu pobl deimlo’n ddiogel yn ystod y broses.
Mae’r grŵp hwn yn addas ar gyfer pobl:
- â diffyg hunan-barch neu hyder
- sy’n galaru
- sy’n teimlo’n bryderus neu’n isel
- sy’n profi arwahanrwydd neu unigrwydd
- sydd ag ADHD
Bydd y grwpiau’n rhedeg am 12 wythnos gyda’r sesiwn cyntaf ym mis Rhagfyr ar ffurf sesiwn brysbennu, fydd yn gyfle i gwrdd â chyfranogwyr eraill a’r hwyluswyr. Cynhelir gweddill y sesiynau rhwng dechrau mis Ionawr a diwedd mis Mawrth. Gellir, gyda’u caniatâd, gyfeirio unigolion yn uniongyrchol at Eginiad os ydych yn teimlo y byddent yn elwa o gefnogaeth grŵp. Anfonwch eu cyfeiriad ebost/rhif ffôn a byddwn yn cysylltu â nhw yn uniongyrchol.
Rydym hefyd ar gael i gefnogi’r rheiny nad oes ganddynt fynediad i’r rhyngrwyd neu sy’n ei chael hi’n anodd gweithio ar gyfrifiadur. Cysylltwch â ni a gallwn drefnu amser a lleoliad ar gyfer y math hwn o gymorth.