Mae’r Is-grŵp Amrywiaeth a Chydraddoldeb yn gweithio i hybu materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth a chydraddoldeb oddi fewn i’r Gynghrair fel y gall y problemau hyn gael eu cynrychioli’n llawn wrth i’r Gynghrair weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a chyrff eraill sy’n cefnogi’r celfyddydau yng Nghymru.
Mae Cynghrair Diwylliant Cymru (CDC) yn cynnwys gwahanol weithgorau sy’n delio â nifer o wahanol faterion sy’n berthnasol i’r sector celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru, gan gynnwys Amrywiaeth a Chydraddoldeb, y Gymraeg, Hinsawdd a Diwylliant, Addysg a Chyfranogiad, Cydweithio, yr Economi, yn ogystal â’r Grŵp Ymateb Ystwyth a’r Grŵp Llywio.
Hoffem wahodd mwy o bobl o gymunedau amrywiol Cymru sy’n ymddiddori yn y maes celfyddydol yng Nghymru ac sy’n wybodus amdano, i ymuno a’r Gynghrair a bod yn rhan o unrhyw un o’r grwpiau hyn.
Gallwch chi ymuno â rhestr bostio’r Gynghrair yma
Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn holl newyddion y Gynghrair drwy e-bost. Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am ymuno ag unrhyw grŵp yn y Gynghrair, mae croeso ichi gysylltu â walesculturealliance(at)gmail.com
Drwy sôn am unigolion amrywiol, maen nhw’n cynnwys ond nid wedi’u cyfyngu i’r canlynol:
- Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig
- Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid
- Pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys:
- Pobl â nam symudedd
- Pobl â nam synhwyraidd
- Pobl â nam/anableddau dysgu
- Pobl sy’n dioddef o afiechyd meddwl
- Pobl â chyflyrau iechyd hirdymor
- Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thraws
- Pobl o wahanol ddosbarthiadau neu grwpiau economaidd-gymdeithasol.
- Pobl o wahanol gredoau neu grefyddau
- Pobl sy’n teimlo bod eu hunaniaeth ddiwylliannol yn cael ei heithrio, ei gwthio i’r cyrion neu ei thangynrychioli
Mae’r Grŵp Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn cynnal cyfarfodydd yn fisol ar Zoom. Mae’r cyfarfodydd yn para am oddeutu awr a hanner ac yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg. Rydym yn croesawu pobl sy’n siarad pob iaith a byddwn yn gwneud ein gorau glas i hwyluso’r modd y cyrchir y cyfarfodydd.
Rydym yn annog y defnydd o’r Gymraeg.
Os hoffech chi ymwneud â’r Grŵp Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant, gyrrwch e-bost at Amanda yn admin@celf-able.org, gan roi eich enw a’ch manylion cyswllt, paragraff byr am y modd y mae’ch profiad yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, ynghyd â’ch diddordeb yn y celfyddydau a’ch gwybodaeth amdanynt, ac unrhyw ofynion o ran cyrchu cyfarfodydd Zoom. Gallwch ymuno â’r cyfarfodydd pan fydd modd ichi wneud hynny. Diolch yn fawr - edrychwn ymlaen at glywed gennych.