Ers 2020, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi creu, adfer a gwella mwy nag 800 o fannau gwyrdd ledled y wlad – a nawr maen nhw’n ôl gyda mwy o becynnau garddio am ddim i’w rhoi i gymunedau!
Helpwch i drawsnewid eich ardal leol a gyda lle i natur ffynnu.
Mae pob pecyn rhad ac am ddim yn cynnwys planhigion, offer a deunyddiau brodorol i wneud eich gardd yn brydferth. Bydd Cadwch Gymru'n Daclus yn delio â'r holl archebion a danfoniadau, a bydd ein swyddogion prosiect yn dod i roi cymorth ar lawr gwlad i'ch helpu i greu eich gofod natur newydd.
Mae ein pecynnau eleni yn perthyn i dri chategori:
- Pecynnau dechreuol
Rhowch hwb i fyd natur gydag un o’r prosiectau garddio bach.
- Pecynnau datblygu
Gwnewch wahaniaeth ar raddfa fwy gyda thyfu bwyd neu ardd bywyd gwyllt.
- Pecyn Perllan Gymunedol
Creu perllan gymunedol fach ar dir sy’n ‘berchnogaeth ddielw’
Mae gwneud cais yn hynod o syml - ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus, dewiswch eich pecyn a llenwch y ffurflen gais ar-lein.