Ffyniant Bro Gyffredin y DU

Dyfarnu £420mil i 17 sefydliad i ‘wneud gwahaniaeth’

Mae 17 o sefydliadau wedi derbyn grantiau trwy gronfa Ffyniant Bro Gyffredin y DU, gwerth cyfanswm dros £420,000, i’w helpu gwella cymunedau Powys.

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sydd wedi dosbarthu cyllid Cronfa Gwneud Gwahaniaeth Powys, ar ran Partneriaeth Leol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys (SPF).

Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO meddai: “Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi cymaint o elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau gwirfoddol, a phob un ohonynt yn gweithio’n galed i wneud Powys yn lle gwell i fyw ynddo ac ymweld ag ef, diolch i grantiau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 “Roedd y sefydliadau llwyddiannus wedi gwneud yn dda iawn i ddod trwy broses bidio hynod gystadleuol, oedd yn golygu fod gan yr panel aml-asiantaeth oedd yn gyfrifol am eu hasesu, ddigon o waith meddwl.

“Rwyf yn edrych ymlaen nawr at weld cynnydd pob un o’r prosiectau llwyddiannus dros y 12 mis nesaf, dan arweiniad swyddogion datblygu PAVO.”

Mae’r prosiectau llwyddiannus fel a ganlyn:

·Deall y Dail, £61,765, ar gyfer Llais y Goedwig, i helpu cynnwys gwirfoddolwyr sy’n ymhél â gwaith i wella coetiroedd ledled Powys.

·Gwell Gyda’n Gilydd, £48,769, ar gyfer Qube, ar gyfer gwaith ym maes sgiliau cymunedol yn Llanfyllin.

·Dathlu Trysorau Maldwyn, £33,778, ar gyfer Menter Iaith Maldwyn, er mwyn creu a chyflenwi digwyddiadau celf sy’n gysylltiedig ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meifod 2024.

·Hyfforddiant a Gweithgareddau Cerdd Lifemusic, £27,883, i greu bît celf yn Aberhonddu, i ddod â hyfforddiant a sesiynau cerdd i gartref gofal yn y dref.

·Ein Llain, £27,673, ar gyfer Peak Cymru, i ddylunio a datblygu gardd gymunedol gyda phobl ifanc ar safle’r Hen Ysgol, Crughywel, gyda’r nod o gynyddu bioamrywiaeth.

·Flora Cultura, £27,673, i Flora Cultura, er mwyn rhedeg gweithgareddau garddio a chrefftau cysylltiedig gyda grŵp cymdeithasol yn Ysbyty Bronllys, gyda’r nod o wella llesiant.

·Astudiaeth Dichonoldeb Pensaernïol ar gyfer y Neuadd Les, Ystradgynlais, £25,000, i Ymddiriedolaeth Neuadd Les a Chymunedol Ystradgynlais Cyf i ystyried yr hyn sydd angen ei wneud i ddiogelu dyfodol hirdymor yr adeilad.

·Cwm Clyd – datgloi potensial, £25,000, i Ymddiriedolaeth Cwm Elan, ar gyfer astudiaeth dichonldeb ar y defnydd gorau ar gyfer yr adeiladau a ailwampiwyd.

·Dylunio Meysydd Natur a Chwarae Aberllynfi, £24,180, ar gyfer Grŵp Cymunedol Aberllynfi, i adolygu mannau gwyrdd a mannau chwarae’r pentref gyda’r nod o annog cymdeithasu, balchder lleol a llesiant.

·Cau’r Bwlch, £21,647, ar gyfer Ymddiriedolaeth Llety’r Barnwr i helpu gyda marchnata a hybu gwirfoddoli yn yr amgueddfa yn Llanandras.

·Cerflunio Efyrnwy, £19,313, ar gyfer Cyswllt Celf i gyflwyno prosiectau celf cymunedol yn Llyn Efyrnwy.

·Mynediad Estyn Allan i’r Gymuned, £18,435, ar gyfer Cyngor ar Bopeth Powys, i helpu cyrraedd trigolion mewn ardaloedd anghysbell.

·Tyfu Bwyd gyda’n Gilydd, £18,069, ar gyfer Cultivate, i ddysgu pobl sut i dyfu ffrwythau a llysiau, a sut i goginio ar gyllideb, ar safle’r gydweithfa yn Y Drenewydd, wrth ymateb i’r argyfwng costau byw.

·Gŵyl Ewyllys Da: Dathlu Treftadaeth Gyffredin Cymru a KwaZwlw Natal, £15,644, ar gyfer Cyfeillion Amgueddfa’r Gwarchodlu Cymreig i gefnogi gŵyl Zwlw pedwar diwrnod yn Aberhonddu ym mis Gorffennaf 2024.

·Adfywio’r Crown & Anchor, £10,000, ar gyfer LLANI Ltd, i ystyried opsiynau er mwyn troi’r hen dafarn yn adnodd i’r gymuned.

·Datblygu Llwybr Treftadaeth a Gwefan Sefydliad Josef Herman, £9,800, ar gyfer Sefydliad Josef Herman, i ddatblygu a hyrwyddo llwybrau treftadaeth yn ardal Ystradgynlais.

·Hyrwyddwr Tref Rhaeadr Gwy – ymgysylltu â’r gymuned, £5,832, ar gyfer Cyngor Tref Rhaeadr Gwy a Rhaeadr 2000 Ltd, i asesu’r angen ar gyfer hyrwyddwr y dref.

Mae Partneriaeth Leol SPF Powys yn cael ei chefnogi gan Dîm Adfywio Cyngor Sir Powys ac mae’n derbyn ei chyllid gan Lywodraeth y DU, fel rhan o’r rhaglen Ffyniant Bro.

Dywed y Cyng. David Selby, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Powys fwy Llewyrchus a Chadeirydd Bwrdd Partneriaeth Leol SPF Powys: “Mae’r grantiau hyn yn helpu mynd i’r afael â’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad a nodwyd o dan thema Cymunedau a Lle Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer Powys: Cymunedau a Lle, Cludiant cymunedol, Treftadaeth Ddiwylliannol a Thwristiaeth, Gweithredu ar yr Hinsawdd, Costau Byw a Chysylltu Cymunedau (yn ddigidol neu fel arall). Maent hefyd yn ein helpu i wireddu ein nod o greu Powys gryfach, decach a gwyrddach, gyda chynlluniau ar hyd a lles y sir.”

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch Cronfa Gwneud Gwahaniaeth ym Mhowys, dylid cysylltu â PAVO’n uniongyrchol ar: grants(at)pavo.org.uk, neu drwy ffonio 01597 822191 neu 01686 626220.

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity