Elusen gweithgareddau awyr agored yn ehangu ar draws Cymru gydag apwyntiadau newydd

Mae elusen sy’n cefnogi pobl i ddechrau gweithgareddau awyr agored fel diddordeb gydol-oes er mwyn gwella eu hiechyd a’u llesiant wedi ehangu o’u canolfan yng Nghapel Curig i gwmpasu Cymru gyfan.

[Translate to Welsh:] Bethan Logan, The Outdoor Partnership’s development officer for Mid Wales (Powys and Ceredigion).

Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi penodi pedwar swyddog datblygu gweithgareddau awyr agored newydd i gwmpasu Canolbarth a De Cymru, diolch i gefnogaeth ariannol gan Gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru.

Mae’r ENRaW yn cefnogi datblygiad a darpariaeth prosiectau sy’n gwneud cysylltiadau clir rhwng gwella gwytnwch ein adnoddau naturiol a llesiant.

Darperir yr arian drwy Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Wedi ei sefydlu yn Ngogledd Cymru ers dros 15 mlynedd, ehangodd y Bartneriaeth Awyr Agored i Ogledd Iwerddon, Yr Alban a Cymbria yn 2020

Swyddogion datblygu newydd yr elusen yw Sioned Thomas ar gyfer Rhanbarth Bae Abertawe, Brett Mahoney ar gyfer Gwent, Bethan Logan ar gyfer Canolbarth Cymru (Powys a Cheredigion) a Leila Connolly ar gyfer Canol De Cymru.

Maent yn gobeithio y bydd llwyddiant y cystadleuwyr Cymreig a Phrydeinig yn y Gemau Olympaidd yn Japan yr haf yma yn ysbrydoli mwy o bobl ledled Cymru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.

Byddant yn cefnogi clybiau gweithgareddau awyr agored newydd a chlybiau sy’n bodoli eisioes er mwyn ymgysylltu mwy o bobl mewn gweithgareddau sy’n amrywio o hwylio a dringo i gerdded.

Mae prosiectau’r elusen yn datblygu hyder, sgiliau a gweithio fel tîm i ddarparu’r camau tuag at gyfleoedd newydd a bywydau iachach. Trwy wifoddoli, addysg, cyfranogiad, hyfforddiant a chyflogaeth, dywed fod lle i bawb i newid er daioni.

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae ei brosiectau wedi darparu dros 100,000 o gyfleoedd gweithgareddau awyr agored ar gyfer iechyd a llesiant, wedi hyfforddi dros 4,000 o wirfoddolwyr, wedi helpu dros 500 o bobl diwaith yn ôl i mewn i waith, wedi sefydlu dros 80 o glybiau a grwpiau awyr agored cymunedol gyda dros 7,000 o aelodau’n cymryd rhan ac wedi darparu cyfleoedd cynaliadwy ar gyfer mwy na 1,000 o bobl anabl.

Cenhadaeth y Bartneriaeth Awyr Agored yw i wella cyfleoedd i bobl yng Nhgymru i gyrraedd eu potensial drwy weithgareddau awyr agored.

Yn hapus i fod yn datblygu ac yn ehangu’r Bartneriaeth Awyr Agored yng Nghanolbarth a De Cymru, dywedodd y prif weithredydd Tracey Evans: “Rydyn ni wedi bod yn helpu pobl i wella eu bywydau drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored yn Ngogledd Cymru ers dros 15 mlynedd ac wedi ehangu y llynedd i Ogledd Iwerddon, Swydd Aeron a Cymbria.

“Mae’n wych i fod yn ehangu’r gwasanaethau ledled Cymru erbyn hyn. Diolch enfawr i Gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) Llywodraeth Cymru am ddarparu cefnogaeth ariannol i alluogi i hyn ddigwydd.”

Wedi ei chyffroi gan ei rôl newydd yn Rhanbarth Bae Abertawe, dywedodd Sioned: “Yn dilyn dros flwyddyn o gyfnodau clo, diffyg digwyddiadau a chystadlaethau chwaraeon, rwy’n meddwl fod gwylio’r Gemau Olympaidd wedi dod â phawb yn ôl at ei gilydd ac yn gyffrous am chwaraeon unwaith eto.

“Roeddwn i wrth fy modd yn gwylio’r chwaraeon newydd yn arbennig, yn cynnwys dringo, syrffio a sglefrfyrddio, ac yn gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli cenhedlaeth gyfan i ddechrau gyda gweithgaredd newydd.”

Dywedodd Brett:  “Rwy’n awyddus i ddechrau arni ac i weithio gyda darparwyr, clybiau a grwpiau cymunedol lleol i wella’r cyfleoedd gweithgareddau awyr agored ar gyfer trigolion Gwent.

“Rwy’n gobeithio y bydd cyflwyniad dringo fel un o’r chwaraeon yn y Gemau Olympaidd yn ysbrydoli ac yn annog mwy o bobl leol i ddechrau dringo ac i gael mynediad i’r awyr agored. Mae’r buddion o ran iechyd a llesiant yn enfawr.”

Dywed Bethan ei bod hi’n gyffrous am ymuno â’r Bartneriaeth Awyr Agored ac yn bwriadu hyrwyddo mwy o gyfleoedd ar gyfer pobl yng Nghanolbarth Cymru i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.

“Gobeithio fod pawb arall hefyd wedi’u gludo i’w sgriniau teledu yn ystod y Gemau Olympaidd, ac wedi eu hysbrydoli gan athletwyr cartref fel Hannah Mills sydd wedi dangos i ni yr hyn mae’n bosibl i’w gyflawni,” meddai.

“Roeddwn wrth fy modd yn gwylio ymddangosiad dringo fel un o’r chwaraeon yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf, a hynny mewn ffurff reit gyffrous. Pwy a ŵyr, efallai y bydd y Shauna Coxsey nesaf yn dod o’r ochr yma i’r ffîn. 

“Ni ddaeth Team GB â medal aur adref yn y dringo, does neb yn dod yn agos i Janja Garnbret o Slofenia, ond ni allem ofyn am well model rôl ar gyfer merched a dynion yn y dringo.”

Dywed Leila ei bod hi’n ddiolchgar am y cyfle i weithio gyda’r Bartneriaeth Awyr Agored i ddatblygu chwaraeon, clybiau a gweithgareddau awyr agored yng Nghymru.

“Gyda’r nifer o Gymry’n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd eleni, rwy’n meddwl bod lefel yr ysbrydoliaeth yn uchel iawn,” meddai. “Gallwn weld athletwyr Cymreig fel Hannah Mills yn ennill yr aur.

“Teimlaf y bydd y llwyddiant Olympaidd yma’n parhau i ysgogi pobl Cymru mewn chwaraeon ac, yn bwysicach fyth, yn gwella mynediad i gael hwyl, i archwilio ac i ddiogelu ein gofodau gwyrdd ac arfordirol awyr agored enwog.

“Cychwynodd Hannah Mills yng Nghlwb Hwylio Caerdydd pan ond yn wyth mlwydd oed. Mae’n wych bod yn rhan o sefydliad sy’n gweithio’n galed i agor drysau i’r awyr agored i bawb, achos mae pawb angen i rhywun agor y drws cyntaf yna, fel y gwnaeth Hannah Mills ei hun.”

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity