Ar yr adeg anodd hon, rydym yn falch i lansio adnodd newydd i Gymru, ar gyfer unrhyw un sy’n cael trafferth i ymdopi. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi sylwi bod eu llesiant wedi dirywio, y rhai sy’n teimlo’n unig neu wedi’u hynysu, a’r rhai sy’n teimlo’n hunanladdol. Mae Dod o Hyd i’ch Ffordd yn cynnwys gwybodaeth hollbwysig am hunan-niwed, ac rydym yn falch o gael adrannau gwych oddi wrth sefydliad Heads Above the Waves (HATW) sy’n canolbwyntio’n gryf ar brofiad byw. Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys cynlluniau diogelwch ar gyfer hunan-niwed a hunanladdiad, sy’n gallu bod yn offer achub bywyd i’r rhai sy’n cael trafferth i ymdopi.
Mae’r adnodd hwn wedi’i lunio fel un anghlinigol a hygyrch yr ydym yn gobeithio ei weld mewn nifer o leoliadau, o feddygfeydd meddygon teulu i fanciau bwyd, prifysgolion i ganolfannau gwaith. Mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw trwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru. Nid yw llawer ohonynt mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd meddwl ac felly, gwyddom fod angen i gymorth a chyfeiriadau fod yn hygyrch mewn amrywiaeth fawr o leoedd â blaenoriaeth a gwasanaethau rheng-flaen. Hefyd, mae’r adnodd yn canolbwyntio ar atal a’i nod yw helpu pobl i adnabod yn gynnar pan fyddant yn cael trafferth i ymdopi, fel eu bod yn osgoi cyrraedd pwynt argyfwng.
Mae’r adnodd dwyieithog hwn ar gael yn rhad ac am ddim ar lein, lle gallwch lawrlwytho copïau a’u rhannu gyda’ch sefydliad a/neu ddefnyddwyr gwasanaeth neu gwsmeriaid. Ewch i samaritans.org/DodOHydIchFfordd
Hefyd, mae gennym nifer gyfyngedig o gopïau caled y gellir eu harchebu am ddim. I archebu copïau i’ch sefydliad neu wasanaeth, cysylltwch â Chydgysylltydd Tîm Cymru, Laura Frayne, trwy anfon neges e-bost at l.frayne(at)samaritans.org
Os hoffech gael deunyddiau ychwanegol i’ch helpu chi i hyrwyddo’r adnodd hwn, gan gynnwys delweddau a chopi i’r cyfryngau cymdeithasol, cysylltwch â’n Rheolwr Polisi a Chyfathrebu, Emma Gooding, trwy anfon neges e-bost at e.gooding(at)samaritans.org
Hyfforddiant yn y gweithle gan y Samariaid
Mae ein tîm canolog yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau undydd, hanner-dydd ac wedi’u teilwra ar wahanol bynciau gan gynnwys Sgyrsiau gyda phobl sy’n agored i niwed, Rheoli sgyrsiau hunanladdol a Meithrin gwydnwch a llesiant.
I gael gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i’ch sefydliad neu wasanaeth, ewch i www.samaritans.org/training
Gobeithio y byddwch yn cael yr adnodd hwn yn ddefnyddiol a diolch ymlaen llaw am ei rannu,