Dim Mynediad: Profiadau pobl hŷn o allgáu digidol yng Nghymru

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn rhybuddio bod defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol yn rhoi pobl hŷn mewn perygl o allgáu cymdeithasol

Mae nifer cynyddol o bobl hŷn yng Nghymru mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol ac yn cael eu gadael ar ôl wrth i’r defnydd o dechnoleg ddigidol barhau i chwarae rhan fwy fyth yn ein bywydau bob dydd.

Dyna’r rhybudd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wrth iddi gyhoeddi adroddiad newydd, ‘Mynediad wedi’i wrthod: Profiadau pobl hŷn o eithrio digidol yng Nghymru’.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn pryderu bod hawliau pobl hŷn i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau, sydd wedi’u hymgorffori mewn amrywiaeth o offerynnau hawliau dynol a deddfwriaeth arall, yn cael eu tanseilio gan ddewisiadau amgen all-lein o ansawdd gwael neu wedi’u diddymu, megis apwyntiadau wyneb yn wyneb, llinellau cymorth ffôn neu gopïau papur o lyfrynnau gwybodaeth.

Mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar brofiadau a rannwyd gyda’r Comisiynydd gan bobl hŷn sy’n byw ledled Cymru, yn amlygu bod llawer o bobl hŷn yn ei chael hi’n fwyfwy anodd, os nad yn amhosibl, i gael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt – gan gynnwys gwasanaethau hanfodol megis apwyntiadau iechyd. Yn y cyfamser maent hefyd yn wynebu rhwystrau sylweddol a all arwain at neu atgyfnerthu allgau digidol, megis cynnal sgiliau digidol, costau a phryderon am ddiogelwch.

Mae hyn yn rhoi iechyd a lles pobl hŷn mewn perygl, yn ogystal â gadael pobl hŷn yn aml yn teimlo’n rhwystredig, yn annigonol ac o’r farn nad yw cymdeithas yn gwerthfawrogi eu bywydau a’u profiadau.

Tynnodd pobl hŷn sylw at amrywiaeth o broblemau oherwydd nad oeddent ar-lein neu fod eu sgiliau digidol yn gyfyng. Roedd y rhain yn cynnwys popeth o deimlo dan bwysau i ddefnyddio bancio ar-lein, i anawsterau wrth drefnu apwyntiadau gofal iechyd, i faterion mwy cyffredin fel methu â pharcio’r car neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Roedd pobl hefyd yn dweud bod dod o hyd i’r mathau cywir o gymorth i’w helpu i fynd ar-lein, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth ariannol, yn gallu bod yn anodd yn aml.

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE: “Mae’r ffyrdd yr ydym yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau a’r ffyrdd yr ydym yn cyfathrebu wedi newid yn sylweddol, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi cyrraedd pwynt lle mae bod ar-lein nid yn unig yn ymwneud â gwneud rhai gweithgareddau’n haws, ond bellach bron yn hanfodol i’n galluogi i gymryd rhan mewn bywyd bob dydd a gwneud y pethau sydd angen i ni eu gwneud.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a rannodd eu profiadau am fod mor agored, ac am ddarparu cipolwg mor bwerus o sut y gall bywyd o ddydd i ddydd fod i bobl hŷn yng Nghymru sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

“Mae’n amlwg bod llawer o bobl hŷn yn wynebu rhwystrau digidol sylweddol, sy’n effeithio ar fwy a mwy o agweddau ar fywydau bob dydd pobl ac yn creu straen a phryder wrth ymgymryd â thasgau a oedd yn syml yn flaenorol.

“Mae perygl y bydd hyn yn tanseilio hawliau pobl ac yn gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol, gan y gallai’r rhai sy’n debygol o fod angen gwasanaethau fwyaf, sydd hefyd yn fwy tebygol o fod wedi’u hallgáu’n ddigidol, gael eu hatal i bob pwrpas rhag cael mynediad iddynt.

“Mae’n destun pryder hefyd ei bod yn ymddangos bod llawer o bobl hŷn wedi derbyn wynebu allgau cynyddol wrth iddynt fynd yn hŷn oherwydd effaith peidio â bod ar-lein, ac i bob golwg wedi ‘rhoi’r gorau iddi’ o ran ceisio dysgu sgiliau digidol neu wneud rhai pethau’n ddigidol. Mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd y mathau cywir o gymorth parhaus i alluogi pobl hŷn i fynd ac aros ar-lein os dymunant.”

Yn ogystal â thynnu sylw at brofiadau pobl hŷn, mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn ymateb i Ganllawiau ffurfiol yn ymwneud ag eithrio digidol a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd yn 2021, ac mae’n nodi cyfres o argymhellion ar gyfer gweithredu pellach i fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan bobl hŷn.

Mae galwadau’r Comisiynydd am weithredu gan gyrff cyhoeddus yn cynnwys sicrhau bod dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb (a deddfwriaeth berthnasol arall) yn cael eu cyflawni, ochr yn ochr â darparu cymorth ymarferol i gael pobl ar-lein wrth barhau i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol. Yn ogystal, mae’n galw am i eithrio digidol fod yn ganolog i drafodaethau’n ymwneud â dylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus, ac am i leisiau pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol gael eu clywed a’r ymateb iddynt fod yn fwy effeithiol.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar gwmnïau preifat i gymryd camau i sicrhau bod cwsmeriaid nad ydynt ar-lein yn cael yr un lefel o wasanaeth â’r rhai sydd, a bod cwsmeriaid sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, neu sy’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd bregus, yn cael cynnig cymorth, gan gynnwys cymorth gyda chostau.

Ychwanegodd y Comisiynydd: “Mae’r gwaith sy’n cael ei gyflawni mewn ymateb i’m Canllawiau ar gyfer 2021 i’w groesawu, ond mae angen gwneud llawer mwy i amddiffyn hawliau pobl hŷn sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y wybodaeth a’r gwasanaethau y gall fod eu hangen arnynt.

“Heb y camau yr wyf yn galw amdanynt, bydd mwy o bobl hŷn yn cael eu gwthio i’r cyrion ymhellach wrth i fwy o feysydd bywyd ‘fynd ar-lein’, ac efallai y bydd pobl yn canfod eu hunain yn methu â chymryd rhan, cael llais a dweud eu dweud am eu dyfodol, rhywbeth a fydd yn ein gadael ni’n dlotach fel cenedl mewn cymaint o ffyrdd.

“Ond drwy gymryd camau i fynd i’r afael ag eithrio digidol mae cyfleoedd i helpu i sicrhau bod Cymru’n wlad iach a chynhwysol sy’n ein cefnogi i heneiddio’n dda.”

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity