Mae Prif Swyddog Gweithredol PAVO, Clair Swales, fel aelod TSPC (Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector), wedi gweithio gyda chydweithwyr yn TSSW i ddarparu gwybodaeth gan drydydd sector Powys i gefnogi datganiad ar y cyd TSPC.
Mae'r datganiad wedi'i gyhoeddi'n awr, cewch ei ddarllen yma.
Gan gydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu’r sector, dywedodd Clair Swales: “Ochr yn ochr â gwaith gyda chydweithwyr TSPC a TSSW, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Sir Powys ac at Fwrdd Iechyd Addysgu Powys yn tynnu sylw at y gwaith hanfodol sy’n cael ei wneud ledled Powys, ac gan godi’r heriau a wynebir gan y trydydd sector, gan gynnwys grwpiau cymunedol llawr gwlad, ar draws ein sir.
“Gyda chydweithwyr yn PAVO rydym yn parhau i godi pryderon ar ran y sector mewn ystod o drafodaethau partneriaeth ar lefel leol, ranbarthol, a chenedlaethol.”