Dangos

Prosiect newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru – Dangos – a gofyn am eich cymorth i annog defnyddio'r hyfforddiant a'r gefnogaeth am ddim y bydd yn eu darparu.

Mae degau o filiynau o bunnoedd o fudd-daliadau a chymorth arall yn mynd heb eu hawlio yng Nghymru ar hyn o bryd. Gall yr arian hwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau teuluoedd a’u dyfodol.

Mae’r rhesymau pam nad yw pobl yn manteisio ar y cymorth hwn yn niferus, ac weithiau’n gymhleth, ond y prif resymau yw nad yw pobl yn gwybod bod y cymorth ar gael neu nad ydyn nhw’n credu y gallen nhw fod yn gymwys i’w gael.

Hefyd, mae llawer o bobl yn nerfus ynghylch gofyn am ba gymorth a all fod ar gael iddyn nhw. Efallai nad ydyn nhw’n gwybod i bwy y dylen nhw ofyn am ba gymorth sydd ar gael neu efallai nad ydyn nhw am ymddangos fel pe bai angen cymorth arnyn nhw.

Nod Dangos yw cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth gweithwyr rheng flaen ynghylch y cymorth sydd ar gael. Hynny yw, pobl sydd mewn cysylltiad o ddydd i ddydd â theuluoedd y gall fod angen cymorth ychwanegol arnyn nhw, pa un a ydyn nhw’n weithwyr cyflogedig neu’n wirfoddolwyr.

Dydyn ni ddim yn mynd i geisio gwneud pobl yn arbenigwyr neu’n gynghorwyr ar fudd-daliadau, dim ond rhoi mwy o ddealltwriaeth a gwybodaeth iddyn nhw am ba gymorth sydd ar gael ac awgrymiadau ynghylch annog pobl i fanteisio ar eu hawliau.

Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cyfres o sesiynau ar-lein am ddim i weithwyr rheng flaen ledled Cymru, gan ddechrau ym mis Ionawr 2021 a pharhau drwy’r flwyddyn. Bydd y sesiynau tair awr, a fydd yn rhyngweithiol iawn, yn cael eu hategu gan becyn gwybodaeth byr, ac i’r rheiny sydd ei eisiau, mynediad am ddim at gyrsiau e-ddysgu manylach am y system fudd-daliadau a sut mae’n gweithio.

Bydd y sesiynau a’r pecyn gwybodaeth yn cael eu darparu yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â rhai o’r cyrsiau ar-lein. Bydd y sesiynau ar-lein yn cael eu darparu’n bennaf drwy Zoom, ond bydd nifer o sesiynau ar Microsoft Teams lle mae polisïau sefydliadau yn gofyn am hynny. Hefyd, bydd sesiynau yn Iaith Arwyddion Prydain yn y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd amserau a phatrwm y cyrsiau hyn yn dibynnu ar y galw.

Byddwn hefyd yn falch o ddarparu cyrsiau ar-lein, am ddim, i grwpiau o staff o’r un asiantaeth, gyda rhwng 10 a 20 ym mhob sesiwn. Efallai y byddwn yn gallu addasu’r cynnwys fel ei fod yn briodol.

Mae gwefan Dangos yn rhoi rhagor o fanylion ac yn galluogi pobl i gofrestru, yn unigol, ar gyfer sesiynau. Y wefan yw: www.dangos.cymru a www.dangos.wales.

Rydym yn gofyn i chi annog eich staff a’ch gwirfoddolwyr, lle bo’n briodol, i gymryd rhan yn y fenter bwysig hon. Drwy fod ychydig yn fwy ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael a’r math o deuluoedd a all fod yn gallu ei gael, gallant wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn sesiynau mewnol, cysylltwch â ni: info(at)dangos.cymru neu info(at)dangos.wales.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity