Mwy o wybodaeth gan Cymru Versus Arthirits isod.
Dysgwch fwy am NERS a sut mae o fudd i bobl ag arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Ymunwch â Simon Davies, Rheolwr Iechyd, Ffitrwydd a Gweithgareddau Ochr Sych Sir Gaerfyrddin a Versus Arthritis i glywed am NERS, sut mae'n gweithio i chi a sut i gael mynediad ato. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau. Mae croeso i bawb.
Cofrestrwch ar Eventbrite Versus Arthritis Information Session - National Exercise Referral Scheme Tickets, Wed 12 Oct 2022 at 14:00 | Eventbrite
Ystafell yn agor am 1.50pm, mae'r cyflwyniad yn dechrau am 2.00pm. Byddwch ar amser.
Mae ein sesiynau gwybodaeth ar-lein ar gyfer oedolion ag arthritis, cyflyrau cyhyrysgerbydol neu gyflyrau cysylltiedig e.e. ffibromyalgia, lwpws, cymalwst. Hefyd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gofalwyr sy'n cefnogi pobl sy'n byw gydag arthritis. Maent yn cynnig cyfle i ddysgu am reoli arthritis a chyflyrau cysylltiedig, clywed gan siaradwyr gwadd a dysgu mwy am y cymorth a ddarperir gan Versus Arthritis mewn ardaloedd lleol.