Fel y gwelwch o’r briff, amcangyfrifir bod hyd at 80,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn colli allan ar Gredyd Pensiwn, sy’n werth £65 yr wythnos ar gyfartaledd i’r rheini sy’n ei hawlio, a bod dros £200 miliwn heb ei hawlio bob blwyddyn.
Mae’r papur gwybodaeth hefyd yn tynnu sylw at y grwpiau a fyddai’n elwa fwyaf o gael Credyd Pensiwn, gan gynnwys menywod hŷn a phobl hŷn o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Bydd codi ymwybyddiaeth am Gredyd Pensiwn ac annog pobl hŷn i wirio a ydynt yn gymwys a/neu’n gwneud hawliad yn helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn sy’n byw ar yr incymau isaf, sy’n aml ymysg rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed, yn colli'r cymorth hanfodol y mae ganddyn hawl iddo mwyach.
Felly byddai unrhyw gamau y gallwch chi eu cymryd i helpu pobl hŷn rydych chi’n gweithio gyda nhw i sicrhau bod yr arian heb ei hawlio hwn yn cyrraedd eu pocedi yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.